Dawn Bowden AS ddim am sefyll yn Etholiad 2026

Dawn Bowden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dawn Bowden wedi cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ers 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae Dawn Bowden, yr Aelod Llafur o'r Senedd dros Ferthyr Tudful a Rhymni, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll i gael ei hail-ethol yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Mewn cyfarfod yn ei hetholaeth nos Wener fe gadarnhaodd ei bod yn camu'n ôl er mwyn "ymgymryd â heriau a chyfleoedd newydd" ac i dreulio mwy o amser gyda'i theulu.

Mae Ms Bowden wedi cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn Senedd Cymru ers 2016.

Yn ystod ei chyfnod fel Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru dan arweiniad Mark Drakeford, roedd Ms Bowden yn destun ymchwiliad i honiad ei bod wedi torri'r côd gweinidogol.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd ei sylwadau am sgandal rhywiaeth Undeb Rygbi Cymru "yn gwbl gywir" ond nad oedd hi wedi torri'r côd gweinidogol.

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, dywedodd Ms Bowden mewn datganiad: "Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i'ch gwasanaethu chi fel eich AS lleol ac yn gwneud fy ngorau posib tan yr etholiad nesaf ym mis Mai 2026.

"Mae diolch arbennig i chi - aelodau'r Blaid Lafur - a phleidleiswyr Merthyr Tudful a Rhymni am ddangos ffydd ynof fi.

"Hoffwn ddymuno'r gorau i'r rhai fydd yn sefyll i gynrychioli Llafur Cymru yn yr etholaeth newydd yn 2026. Byddaf yn eich cefnogi yn llwyr."

Pynciau cysylltiedig