Dryswch dros gerflun posib o aelod o'r grŵp Steps

Ian H WatkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Ian 'H' Watkins i amlygrwydd gyda Steps ddiwedd y 1990au

  • Cyhoeddwyd

Mae yna ddryswch un un o drefi Bro Morgannwg yn sgil honiadau bod yna fwriad i osod cerflun ar y stryd fawr o un o aelodau o'r grŵp Steps.

Yn ôl straeon newyddion sydd wedi eu rhannu'n eang yn y dyddiau diwethaf, mae grŵp o'r enw Cultural Cowbridge eisiau gosod cerflun efydd wyth troedfedd o daldra o Ian 'H' Watkins yn Y Bont-faen.

Ond gan fod neb yn y dref wedi clywed am y trefnwyr honedig - a'r cyngor tref yn dweud eu bod heb dderbyn unrhyw gais cynllunio - mae amheuon wedi codi mai jôc neu Ffŵl Ebrill yw'r cynllun.

Mae llun o'r cerflun wedi bod yn cael ei rannu ar-lein hefyd, ond mae'r BBC yn credu y cafodd ei greu gyda deallusrwydd artiffisial (AI).

Mae'r canwr ei hun wedi cyhoeddi ar ei dudalen Instagram ei fod yn "falch eithriadol" o'r fath "anrhydedd".

Ychwanegodd: "Bydd hi'n eitha' od gweld fy hun ar draws y ffordd wrth bicio i'r dref!"

Ffynhonnell y llun, Instagram
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 'H' rannu un o'r straeon ar ei dudalen Instagram

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda Mr Watkins i ddarganfod sut y daeth i wybod am y cerflun, ond does dim ymateb ganddo hyd yma.

Ers i'r stori ledu yr wythnos hon, mae'r syniad wedi hollti barn yn y dref, gyda rhai'n ei groesawu ac eraill yn awgrymu bod unigolion eraill yn fwy haeddiannol o gael eu hanrhydeddu gyda cherflun.

Yn ôl Cultural Cowbridge, rhoddion preifat sy'n ariannu'r cerflun ac artist lleol sy'n ei ddylunio.

Maen nhw'n honni mai eu bwriad yw ei osod tu allan i Westy'r Bear er mwyn cydnabod cyfraniad y canwr, actor a darlledwr i gerddoriaeth ac i'r Bont-faen.

Heb law am fod yn aelod o Steps, mae Mr Watkins hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar BBC Radio Wales.