Apêl heddlu am help i adnabod corff gafodd ei olchi i'r lan yn 2023

Cafodd y corff ei ddarganfod rhwng Bae Slade a Pharc Hamdden Green Meadow ar 16 Rhagfyr, 2023
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth i geisio adnabod corff dyn a gafodd ei olchi gan y llif i lan yn ardal y Gŵyr, Abertawe, flwyddyn a hanner yn ôl.
Cafodd y corff ei ddarganfod rhwng Bae Slade a Pharc Hamdden Green Meadow ar 16 Rhagfyr, 2023.
Nid yw'r heddlu wedi gallu ei adnabod ers hynny.
Roedd gan y dyn felt lledr du, pâr o sanau du ac esgidiau cerdded Magnum maint naw.
Mae'r corff wedi cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, chwe throedfedd o uchder gyda lled ysgwyddau o 20 modfedd.
Mae Heddlu'r De wedi cydweithio gyda lluoedd eraill - o fewn a thu allan i'r Deyrnas Unedig - ond hyd yn hyn dydyn nhw heb allu adnabod DNA o'r corff.