Cwblhau gwaith atgyweirio ar do'r Llyfrgell Genedlaethol

Mae gwaith wedi bod yn digwydd ar y llyfrgell ers yr hydref
- Cyhoeddwyd
Er ei fod yn un o'r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru, mae lleoliad y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yn golygu ei fod yn gorfod gwrthsefyll y tywydd gwael sy'n aml yn chwythu i mewn o Fae Ceredigion.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae arfordir Ceredigion wedi cael ei daro gan nifer o stormydd, ac ym mis Ebrill 2024 fe wnaeth Storm Kathleen achosi difrod i ran o do'r llyfrgell.
Aeth aelodau staff yno yn oriau mân y bore er mwyn symud rhannau o'r casgliad i lefydd diogel wrth i law ollwng trwy'r to.
Yn sgil y profiad hwnnw, fe benderfynodd y llyfrgell bod angen atgyweirio'r to ar frys.
Roedd llawer o'r llechi wedi bod ar y to ers bron i ganrif a rhannau o strwythur y to wedi dirywio.
Dechreuodd y gwaith o osod to newydd uwchlaw storfeydd llyfrau un a dau yn yr hydref y llynedd, ac fe gafodd ei gwblhau ddydd Iau.

Fel rhan o'r prosiect cafodd 40,000 o lechi Cymreig newydd o Flaenau Ffestiniog eu gosod ar y to
Roedd yn brosiect mawr a gostiodd £1.58m, gyda Llywodraeth Cymru yn dyfarnu cyllideb ychwanegol i dalu am y gwaith, sydd hefyd yn cynnwys cannoedd o baneli solar newydd.
Bellach mae 797 o baneli ar do y llyfrgell, a fydd yn helpu cynhyrchu traean o'r ynni sydd ei angen ar yr adeilad.
Fel rhan o'r prosiect cafodd 40,000 o lechi Cymreig newydd o Flaenau Ffestiniog eu gosod ar y to.
Dywedodd Luke Baker o gwmni LEB Construction, oedd yn gyfrifol am y gwaith ar y to: "Mae 56 math gwahanol o lechi yma - 2,000 metr sgwâr o orchudd o dan y llechi, wyth tunnell o blwm a 17,000 metr o battens pren.
"Mae hi wedi bod yn dasg enfawr ond chwarae teg mae'r tîm wedi gweithio yn wych."

Ychwanegodd Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr y llyfrgell: "Mae'n brosiect pwysig, ac mae'r gwaith wedi digwydd yn gyflym hefyd.
"Dechreuodd ar ôl i stormydd achosi difrod, a hynny felly yn bwysig i ni sicrhau diogelwch y casgliadau.
"Ond mae'n bwysig hefyd i ni symud ymlaen gyda'r prosiect o ddatgarboneiddio'r llyfrgell gyda'r paneli haul newydd.
"Ar ôl cyfnod y stormydd y llynedd fe welon ni fod difrod ychwanegol wedi'i wneud i'r to – felly fe wnaeth hynny i ni symud ar y cynlluniau i adnewyddu'r to ar fyrder.
"Gyda chefnogaeth arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru roedden ni wedi gallu penodi contractwyr sy wedi gweithio trwy'r gaeaf – trwy ragor o stormydd – ond maen nhw wedi cwblhau'r gwaith ar amser ac o fewn y gyllideb, ac mae'n mynd i dalu ar ei ganfed."