Tad ifanc 'gwych' wedi marw ar ôl damwain beic Bangor
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn ifanc yn dilyn damwain ar ôl seiclo'n gyflym i lawr allt ym Mangor tra'n feddw, clywodd cwest.
Bu farw Reece Thomas Thompson, 19 oed, ar ôl taro polyn lamp ar waelod allt serth, a hynny ar ôl diwrnod allan gyda'i ffrindiau.
Yn ôl tystiolaeth i'r crwner roedd Mr Thompson yn chwaraewr pêl-droed talentog ac yn "dad gwych" i'w fab ifanc.
Bu farw o anafiadau difrifol i'w ymennydd mewn ysbyty yn Stoke ym mis Gorffennaf 2022, wythnos wedi'r ddamwain.
Daeth crwner gogledd orllewin Cymru, Kate Robertson i'r casgliad fod y farwolaeth yn un ddamweiniol.
Clywodd y cwest fod Mr Thompson newydd ddychwelyd o Iwerddon ble bu'n dathlu priodas ei rieni, a'i fod wedi treulio'r diwrnod gyda'i ffrindiau.
Drwy ddatganiadau ei ffrindiau clywodd y crwner fod Mr Thompson, oedd yn brentis trydanwr, wedi bod yn yfed fodca ac erbyn diwedd y prynhawn roedd y ffrindiau yn "eithaf meddw".
Fe aethon nhw allan yn y nos i sawl tafarn gan adael Bangor Uchaf yn oriau mân y bore.
Dywedodd un o'i ffrindiau gorau, Jack Lloyd, iddyn nhw weld beic yn erbyn wal wrth iddyn nhw gerdded i lawr Allt Glanrafon.
"Roeddwn i'n gwybod yn syth y byddai Reece yn gwneud rhywbeth dwl, roeddwn i'n saff o hynny," meddai Mr Lloyd.
'Hedfan' i lawr allt
Disgrifiodd ei ffrindiau Mr Thompson yn "hedfan heibio" ar y beic, cyn taro polyn lamp ar waelod yr allt.
Fe gafodd ei daflu dros fariau'r beic a chael ei ddarganfod yn anymwybodol.
Cafodd Mr Thompson ei gludo o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Brenhinol Stoke i dderbyn llawdriniaeth i drin ceulad gwael ar ei ymennydd a thoriad i'w benglog.
Ond ni wnaeth ddeffro wedi'r driniaeth a bu'n rhaid i'w deulu gytuno i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd. Bu farw ar 26 Gorffennaf.
Clywodd y gwrandawiad bod Mr Thompson yn chwaraewr pêl-droed talentog ac wedi chwarae i sawl clwb lleol gan gynnwys Bethesda a Llandudno.
Roedd hefyd wedi cynrychioli clwb rygbi rhanbarthol y gogledd, RGC.
Wrth ddatgan fod y farwolaeth yn un ddamweiniol fe ddywedodd y crwner Kate Robertson fod Mr Thompson wedi trafod rhoi ei organau petai’n marw.
Gan droi at ei rieni, Caryl a Dewi Thomas Thompson, fe ddywedodd "mae'n amlwg fod eich mab yn annwyl i chi" ac "roedd ganddo ei fywyd llawn o'i flaen".
"Rwy'n gobeithio fod 'na rywfaint o gysur i chi o wybod ei fod yn awyddus i rannu ei organau."
Fe ychwanegodd y crwner fod yr achos yn pwysleisio'r angen i bobl siarad am roi organau ac i adael i bobl eraill wybod am eu bwriad.
Roedd Reece Thompson, meddai, wedi bod yn aeddfed ac wedi achub a chynnal bywydau eraill, a'i fod yn haeddu clod am hynny.