Pum munud gyda'r ysgrifennwr trawsryweddol Leo Drayton

  • Cyhoeddwyd
Leo DraytonFfynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol

Mae Leo Drayton yn fardd ac ysgrifennwr trawsryweddol o Gaerdydd sy' wedi gweithio ar gyfres Y Pump ac ar y ddrama Dy Enw Marw ar gyfer yr ŵyl National Theatre Connection. Cafodd un o'i gerddi ei gynnwys yn y flodeugerdd LHDTC+ Cymraeg gyntaf, Curiadau.

Mae Leo, ynghyd â Richard Huw Morgan, Steffan Phillips, clare e potter a Talulah Thomas, yn un o'r artistiaid cyntaf i gymryd rhan ym Mhrosiect 40°C, sef prosiect newydd hirdymor gan Theatr Genedlaethol Cymru sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Bu Cymru Fyw'n holi Leo am ei waith a'i fywyd:

Mae Prosiect 40°C yn brosiect newydd hirdymor sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd - sut wyt ti'n teimlo fod y celfyddydau yn gallu mynd i'r afael â'r pwnc yma? Pam fod hi'n bwysig fod y celfyddydau yn ymgymryd â'r pwnc?

Mae'r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sydd am ac sydd yn effeithio pawb a phopeth. Trwy fanteisio ar allu'r celfyddydau i gyrraedd amrywiaeth eang o leisiau, gallwn ni wahodd pawb i'r drafodaeth.

Rwy'n credu mai un o fuddiannau pethau fel theatr yw ei fod yn gyfrwng sy'n gallu archwilio pethau dwys mewn ffurf 'dymunol'; trwy gymeriadau, stori a throsiadau allwn drio gwneud synnwyr o'r argyfwng gymhleth a brawychus. Mae'r celfyddydau yn gallu addysgu a chynnig gwagle i gynulleidfaoedd ymateb ac archwilio materion efallai nad ydynt yn cael y cyfle i feddwl amdanynt yn aml.

Pam dy fod wedi penderfynu ymgeisio am y prosiect?

Mae'n byd ni yn newid. Roeddwn i'n teimlo'n ofnus, grac ac yn anobeithio am hynny. Gwelais y cyfle anhygoel yma i ddysgu a cheisio deall mwy am yr argyfwng gan ddefnyddio ein crefft i'w archwilio - penderfynais y fyddai cymryd rhan yn tawelu peth o'm mhryderon.

Un o'r elfennau fwyaf apelgar am y preswylfa (roedd y prosiect yn cychwyn gyda chyfnod preswyl ym mis Awst pan oedd cyfle i dreulio amser yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i ddatblygu syniadau creadigol) oedd ei fod yn gyfle i wrando ar arbenigwyr ac artistiaid oedd yn gweithredu yn y maes ecolegol, dysgu gymaint ag y gallwn heb unrhyw bwysau i greu.

Doedd dim teimlad o fai neu euogrwydd am nad ydyn yn gwneud digon ond yn hytrach roedd teimlad o 'efallai nad ydw i'n gallu newid y byd, ond mi alla i newid fy myd i'. Mabwysiadu newidiadau bach all wneud gwahaniaeth.

Ffynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol

Ces di gyfle i gydweithio ar gyfres o lyfrau Y Pump ar gyfer pobl ifanc fel cyd-awdur ar nofel Robyn gyda Iestyn Tyne. Sut brofiad oedd hynny ac wyt ti'n mwynhau ysgrifennu i bobl ifanc?

Rydw i wir yn credu bod bod yn ifanc dyddiau yma llawer fwy anodd. Er fod cysylltu â ffrindiau yn haws a chyfryngau cymdeithasol yn rhoi'r gallu i deithio i ben draw'r byd yn weledol, mae hynny yn gallu teimlo'n unig.

Fe wnaeth Y Pump ymestyn allan i'r profiadau 'anweladwy' mae pobl ifanc yn wynebu, a sicrhau fod rhywle iddyn nhw ddianc i, ac i wybod dydyn nhw ddim ar ben ei hun. Mae ysgrifennu i bobl ifanc yn hanfodol! Tasg anodd iawn i'w gyflawni'n llwyddiannus ond mae un llyfr neu stori yn gallu cyffwrdd unrhyw un, a newid eu bywydau am y gwell.

Rwyt ti'n awyddus i ysgrifennu am dy brofiadau fel person traws a rhannu straeon am y gymuned cwiar. Ydy bod yn drawsryweddol yn dy ysbrydoli di yn dy waith?

Bendant. Fel person trawsryweddol dw i'n teimlo fod dyletswydd arnaf i ysgrifennu a rhannu fy ngwir brofiadau er mwyn addysgu pobl sy' heb ymwybyddiaeth am ein cymuned ac i gydnabod fy mrodyr, chwiorydd traws a 'ffrindiau' aneuaidd (does dim gair niwtral am sibling yn y Gymraeg...) er mwyn lleihau'r teimladau llethol fod y byd yn ein herbyn ni.

Rydym yn wynebu erthyglau a newyddion trwy'r amser am ryw fudiad arall sy'n ein gwahardd rhag cymryd rhan. Trwy ddefnyddio fy ngwaith a'n llais i ledu positifrwydd cwiar rwyf yn gobeithio cyffwrdd â rhywun sydd angen bach o hyder neu gefnogaeth.

Ffynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol

Pa mor bwysig yw cynrychiolaeth i'r gymuned LHDTC+ yn dy fywyd a dy waith?

Rwy'n credu fod cynrychiolaeth yn hynod o bwysig ddim yn unig i addysgu pobl tu allan i'r gymuned ac i gydnabod a chefnogi'r gymuned ei hun, ond hefyd o ran sicrhau fod straeon newydd a diddorol yn cael eu rhannu.

Am flynyddoedd rydym wedi gweld, clywed a darllen am yr un fath o gymeriadau, ac er ei fod yn gwella mae'n hen bryd i ni allu rhannu straeon newydd, lliwgar am y cymeriadau sydd wedi eu tangynrychioli.

I fi, rwy'n mwyhau cynrychiolaeth bositif am brofiadau amrywiol, yn enwedig o ran cynrychiolaeth LHDTC+. Mae gwerth mewn straeon am ddod mas ac am yr heriau amlwg ond i fi ac yn fy ngwaith rwyf yn ceisio trafod yr heriau llai amlwg, neu sydd heb gael eu cyffwrdd ddigon, yn ogystal â'r llawenydd.

Beth yw dy ddiddordebau pan ti ddim yn ysgrifennu?

Ar wahân i ysgrifennu a darllen, rwyf yn mwyhau ffilm, theatr ac unrhyw gyfrwng creadigol. Dwi wastad wedi mwynhau chwarae efo paent a chlai, er nad wyf yn dda iawn. Yn fy amser rhydd rwyf wedi dechrau arbrofi efo dyfrlliw ac acrylig yn ogystal â chreu cerfluniau 3D.

Rydw i'n caru cŵn ac yn joio mynd â fy nghi am dro. Rwyf hefyd yn mwynhau coginio ac yn aml yn coginio swperi arbrofol i fy nheulu. Dwi wedi meistroli sŵp ffacbys fy hun wedi ei ysbrydoli (yn llac iawn) ar flasau Morocco, ac yn fy marn i... mae'n lysh!

Beth yw dy obeithion am y dyfodol o ran gyrfa?

Dwi'n teimlo fod hwn yn anodd iawn i'w ateb gan nad oeddwn i'n disgwyl creu gyrfa allan o rywbeth roeddwn i wastad yn gwneud yn amser fy hun fel hobi. Ers oeddwn i'n fach defnyddiais farddoniaeth i archwilio fy nheimladau am y pethau cymhleth doeddwn i ddim yn ei ddeall.

Mae'n fraint gallu rhannu'r pethau rwyf yn ysgrifennu ac rwyf yn gobeithio gallu parhau i wneud hynny. Mae gen i nifer o syniadau am straeon, ffilmiau a dramâu theatr ac yn gobeithio yn y dyfodol mi alla i eu creu a'u rhannu.

Pynciau cysylltiedig