Pum munud gyda... Iwan John

Iwan JohnFfynhonnell y llun, Iwan John
Disgrifiad o’r llun,

Iwan John

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon mae Cymru Fyw am dreulio pum munud yng nghwmni’r actor a’r comedïwr, Iwan John.

Mae’n adnabyddus i filoedd o blant fel Twm Tisian, Jac Rysel a’r anfarwol Eddie Butler. Mae hefyd wedi bod yn wyneb cyson ar S4C ar raglenni fel Hyd Y Pwrs.

Beth wnaeth dy ysgogi di i fentro i fyd perfformio a chomedi?

Ro’n i eisiau bod yn blismon pan o’n i’n blentyn. ‘Se hynny ‘di bod yn well i fi nag actio achos bydde fe ‘di talu’n well a bydden i’n dod lan i riteiro erbyn hyn. Nes i berfformio sgetsys ar gyfer gig comedi’r Urdd nol yn 1986 yn y Golden Lion, Tydrath (Trefdraeth) gyda ‘mrawd, Rhys. Do’n i ddim yn gallu neud unrhywbeth arall! Naeth Euros Lewis helpu ac fe wnes i berfformio mewn operâu roc ar gyfer y Steddfod. Roedd Gareth Iwan a Geraint Halket yn help fawr ‘fyd. Yna, es i mlaen i Goleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar ôl gadael Ysgol Preseli a joio mas draw achos nes i ddim rili gwrando tra ro’n i ‘na.

Beth oedd dy swydd actio proffesiynol cyntaf?

Ro’n i’n rhan o’r Brodyr Williams gyda fy mrodyr Rhys a Sion. Ro’n i wrthi’n 'sgrifennu ac yn perfformio sgetsys gyda nhw pan o’n i’n coleg. Wnaethon ni recordio sgetsys ar gyfer rhaglen o’r enw Wadlo ar ol i fi raddio. Daeth yr ysbrydoliaeth o’r pethau roedd yn digwydd ar y pryd yng nghefn gwlad.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iwan fel y cymeriad Eddie Butler

Sut ddechreuaist ti ymddangos ar raglenni plant?

Ar ôl Wadlo es i ar daith ar un o pantos Dafydd Hywel a ges i fy ngwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen o’r enw Troi a Throi ac yna gweithio i Cred TV. Roedd Cred TV yn raglen crefyddol ond ges i’r cyfle i chware pob math o gymeriadau gwahanol o fewn y sgetsys. Wedyn es i mlaen i neud Noc Noc ‘da HTV.

Ti’n adnabyddus am chwarae cymeriadau unigryw iawn. O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y cymeriadau yma?

Dwi’n ffan mowr o Steve Martin, Rik Mayall ac Ade Edmondson. Roedd y Young Ones ar y teledu pan o’n i’n tyfu lan ac ro’n i hefyd yn dwli ar Bottom. Doedd y cymeriadau ddim yn becso am ddim ac ro’n nhw’n cheeky ‘fyd.

Pan o’n i ar Noc Noc ges i’r syniad i greu cymeriad Eddie Butler, sef bwtler oedd yn agor drws tai y plant ro’n i’n ymweld 'da nhw. Roedd hi o gwmpas cyfnod Calan Gaeaf felly ro’n i eisiau iddo fe i fod yn rhyw fath o Zombie. Dyna pam mae e’n llwyd. So fe’n becso ac mae’n gallu gweud unrhywbeth nôl i unrhyw un.

Roedd cymeriad Heddwyn Gwrych ap Rych yn bwrw Gwenllian y cyflwynydd eitha lot achos doedd e ddim yn becso chwaith. Allen i ddim neud hynna dyddie 'ma.

Roedd Twm Tisian yn grêt achos doedd dim rhaid i fi ddysgu geirie!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iwan yn chwarae rhan Twm Tisian yn y rhaglen Sbidiri

Rwyt ti wedi troi dy law at weithio efo pypedau ac wedi ymddangos ar raglenni fel Rhacsyn, Yn Yr Ardd, Tref a Slyrp o Slot Sadwrn. Sut brofiad yw pypedi o’i chymharu ag actio?

Dwi’n lico pypedau achos ti’n gallu gadael i’r cymeriad neud pethe dwl. Ti’n gorfod perfformio trwy dy law yn ogystal â dy lais ond ti’n gallu dod bant 'da dweud a neud pethau fel pyped!

O ble ddaeth y syniad am raglen Hyd Y Pwrs a phwy oedd dy hoff gymeriad?

Daethon ni at ein gilydd i drial creu comedi. Unwaith eto yr ysbrydoliaeth oedd pethe oedd yn digwydd o’n cwmpas ni ar y pryd. Roedd e’n lot o sbort. Nes i joio neud Merched y Festri. Ro’n i’n corpso cymaint yn enwedig wrth weld grŵp o ddynion canol oed wedi gwisgo fel hen fenywod ac yn trial bod yn seriys.

Hen fenywod ardal Crymych o’n nhw sydd wedi’n gadel ni erbyn hyn. Mam-gu oedd un ohonyn nhw!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r rhaglen Hyd y pwrs

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dwi wrthi’n gwneud rhaglen i blant o’r enw Dreigiau Cadi sef rhaglen am ddwy ddraig (pypedau) sy’n byw mewn gorsaf drên yn ardal Tywyn. Dwi hefyd yn gweithio ar gynllun Talent Mewn Tafarn. Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor y Celfyddydau, Yr Eisteddfod a’r Egin. Y nod yw denu cynulleidfa newydd allan i dafarndai cymunedol ac i roi cyfle i bobl neud stand up. Ry’n ni wedi cynnal nosweithiau comedi yn Y Vale, Dyffryn Aeron, Tafarn Sinc, Sir Benfro, Ty’n Llan yn Llandwrog a’r Plu yn Llanystumdwy. Mae’r prosiect yn gorffen fis Rhagfyr yma. Ar wahân i hynny, gawn ni weld beth a ddaw.

Ffynhonnell y llun, Talent mewn tafarn
Disgrifiad o’r llun,

Poster ar gyfer un o nosweithiau Talent mewn tafarn.