'Dwi wedi gwario £650 heddiw yn sgil trafferth Heathrow'

- Cyhoeddwyd
Mae Cymro oedd fod i hedfan i Faes Awyr Heathrow ddydd Gwener wedi dweud ei fod wedi gwario "tua £650" yn trio mynd adref o Dwrci.
Dywedodd Owain Llion o Gaerdydd fod ei hediad gwreiddiol wedi cael ei ganslo oherwydd y tân mawr dros nos mewn is-orsaf drydan yn Hayes yng ngorllewin Llundain.
Mae Heathrow wedi bod ar gau drwy'r dydd, gyda cannoedd o hediadau wedi cael eu heffeithio, a 200,000 o deithwyr yn wynebu trafferthion.
Ond brynhawn Gwener, dywedodd y maes awyr y byddai'n dechrau rhai hediadau yn ddiweddarach yn y dydd, ac yn gobeithio rhedeg amserlen arferol ddydd Sadwrn.
Cafodd rhai teithwyr eu dargyfeirio i Faes Awyr Caerdydd o Heathrow.
Yn Istanbwl, cafodd Owain drafferth cyrraedd y maes awyr yn y lle cyntaf, gan fod sefyllfa wleidyddol y wlad wedi "dirywio'n gyflym".
Yna bu'n rhaid iddo brynu ail a thrydydd tocyn i ddod adref trwy Faes Awyr Luton, gan nad oedd o'n ymwybodol ar y pryd o pam fod ei hediad cyntaf wedi'i ganslo.

Glaniodd y Virgin A350 o Bridgetown yng Nghaerdydd am 06:42
Dywedodd Owain ei fod wedi cael ei stopio ar y ffordd i'r maes awyr yn Istanbwl yn sgil y sefyllfa wleidyddol.
Dywedodd bod "heddlu arfog ym mhob man" a thanciau ar brif sgwâr y ddinas
"Mi ges i fy stopio ar y ffordd yma gan heddlu arfog, a gorfod dangos dogfennau. Ar ben hyn - mi gafodd fy hediad i Heathrow ei ganslo oherwydd y tân yno."
"Felly dwi wedi gorfod ail-archebu ail a thrydydd hediad yn gyflym i Luton, a gobeithio y gwnaf gyrraedd adre'n saff y prynhawn yma."
'O ddifrif wedi gadael i mi brynu ail hediad i Heathrow'
Dywedodd Llion nad oedd o'n ymwybodol o'r tân yn Heathrow pan sylwodd fod ei hediad cyntaf wedi cael ei ganslo.
"Mi wnaethon nhw o ddifrif adael i mi brynu ail hediad i Heathrow yn hwyrach yn y dydd - un fyddai'n amlwg wedi cael ei chanslo hefyd yn y pendraw.
"Felly dwi nawr wedi gorfod sgramblo i brynu trydydd hediad y dydd i Faes Awyr Luton, sy'n gadael o fewn yr awr nesaf.
"Felly mae'n rhaid fy mod i wedi gwario tua £650 yn trio mynd adref heddiw."
Cafodd cyflenwad drydan Maes Awyr Heathrow ei dorri nos Iau.
Mae rheolwyr Heathrow yn rhybuddio am "effaith sylweddol" dros y dyddiau nesaf gyda phob hediad wedi'i ganslo ddydd Gwener.
Ond mae'r BBC yn deall y bydd y cyflenwad yn cael ei adfer yn ystod y dydd.
Glaniodd awyren Virgin Atlantic o Barbados yng Nghaerdydd ychydig cyn 07:00.

Cafodd tua 70 o swyddogion tân Llundain eu danfon i ddiffodd y tân
Heathrow yw maes awyr prysuraf y Deyrnas Unedig gyda thua 1,300 o awyrennau yn hedfan i mewn ac allan bob dydd.
Roedd disgwyl y gallai o leiaf 1,351 o hediadau i'r maes awyr yng ngorllewin Llundain gael eu canslo heddiw, yn ôl gwasanaeth tracio hediadau Flightradar24.
Cafodd y maes awyr ei gau am hanner nos, nos Iau.
Mewn datganiad dywedodd Maes Awyr Heathrow ei fod yn "profi toriad pŵer sylweddol".
"Er bod criwiau tân yn ymateb i'r digwyddiad, nid oes gennym eglurder ynghylch pryd fydd y pŵer wedi'i adfer.
"Er mwyn cynnal diogelwch ein teithwyr a'n cydweithwyr, nid oes gennym unrhyw ddewis ond cau Heathrow tan 23h59 ar 21 Mawrth 2025."
Mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio i beidio â theithio yno "o dan unrhyw amgylchiadau" nes iddo ailagor.

Is-orsaf drydanol Hayes ar dân nos Iau
Mae'r tân yn yr is-orsaf wedi gadael mwy na 4,900 o gartrefi heb bŵer hefyd, a chafodd 150 o bobl eu symud o'u cartrefi.
Nid yw achos y tân yn hysbys eto.
Dywedodd y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark wrth raglen Dros Frecwast bod y sefyllfa yn un "rhyfeddol".
"Fysan i 'di disgwyl byddai system arall i gael trydan i mewn i'r maes awyr os bod y brif gyflenwad yn stopio," meddai.
"Falle bod angen ychydig o doriad yn y gwasanaeth ond ddim am ddiwrnod cyfan felly mae'n rhyfeddol mewn ffordd bod maes awyr yn dibynnu ar un cyflenwad pŵer.
"Falle ar ôl hyn fydd na newid meddwl – a ddylen ni gael rhyw fodd arall o gael trydan mewn?"