Ateb y Galw: Beryl Vaughan
- Cyhoeddwyd
Ar ôl wythnos brysur yn Y Ganolfan Groeso ar faes Eisteddod yr Urdd ym Maldwyn, Beryl Vaughan sy'n Ateb y Galw i Cymru Fyw yr wythnos yma.
Beryl o Lanerfyl oedd cadeirydd pwyllgor cyllid yr ŵyl.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Fy nhaid yn rhoi tedi bêr i mi. O'n i yn rhyw bedair oed a dyna’r unig dedi gefais i 'rioed.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi wedi cal fy magu yn Nhal-y-llyn a dyna fy hoff le, mae'n rhaid i mi gyfadda'.
Mae o’n le anhygoel a phan fydda i'n dŵad adra i weld fy nwy chwaer sy'n byw ym Mryn-crug fydda i’n dŵad lawr dros y bwlch a does 'na ddim golygfa debyg iddi yn nunlla.
Dwi wedi cerdded gymaint o gwmpas Llyn Mwyngil gan gynnwys ei gerdded o pan rewodd o drosodd yn y flwyddyn 1963.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Mae'n debyg mai’r noson orau fysa noson fy mharti priodas i.
Ddaru ni gael noson a hanner; oedd ein brecwast ni mewn lle o’r enw Trefeddian yn Aberdyfi.
Disgrifiwch eich hyn mewn tri gair
Brwdfrydig, cadarnhaol, maddeugar.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mi oedd fy Nhad yn 'sgwennu rhyw ddramau bach ac oedd o wedi 'sgwennu drama i’r teulu mae’n debyg, ac o'n i'n rhyw 3-4 oed.
Yn rwla yn y ddrama oedd 'na ddarn Saesneg; 'If you lose the morning you lose the day' ac o'n i o hyd yn mynnu dweud 'If you lose the day you lose the morning', a phan fydda i'n meddwl amdano fo dwi'n gwenu o hyd.
Mae gen i ryw frith gof o Nain yn ei ailadrodd o hyd ac o hyd. Dwi'n meddwl mai dyna pam dwin ei gofio fo... a dwi isio chwerthin 'wan!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Pan o'n i'n beirniadu yn yr adran llên mewn eisteddfodau lleol roedd 'na rai ohonyn nhw yn cystadlu ac yn rhoi penillion i mewn.
Roedd yna rai yn hileriys a dweud y gwir, a rhai eraill... wel o'n i'n meddwl 'Haleliwia, fi ydy honna!'
Oeddan nhw yn fy 'nabod i yn rhy dda o lawer drwy ddweud rai petha', ond doedd o ddim bwys gen i.
Mae gen i groen fel eliffant ond mi oedd o'n codi cywilydd arna i!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi wedi crio o lawenydd yn 'steddfod y sir pan oedd y wyres fach yn canu.
Mi ganodd hi gydag arddeliad. Dyna’r dagrau dwytha a dagrau o lawenydd oedd rheiny.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes, dwi'n berson byr fy amynedd weithiau a dwi'n berson sy'n mynd i ormod o hwyl efo rhai pethau (os dwi'n credu yn angerddol yn rhywbeth).
Os ydw i'n gwrthwynebu rhyw fater o bwys, dwi'n ei erbyn o'n gacwn a mi siarada i amdano fo tan fasa’r gwartheg yn dod adra.
Dwi'n gweithio fy hun i fyny a dwi'n teimlo weithia' y basa’n well taswn ni’n peidio.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Faswn i'n dweud mai y ffilm orau ydy The Sound of Music a dwi'n dal i'w mwynhau hi.
Ges i’r cyfla i fynd i weld y sioe yn Llundain pan oedd Julie Andrews drosodd a dwi wedi gweld y ffilm niferoedd o weithiau.
Ac wrth gwrs, mae hi ymlaen adag dolig a phan fydda i’n ei gwylio hi, mae hi fel newydd i mi bob tro.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Faswn i wrth fy modd taswn i wedi cael cyfle i gael diod neu beth bynnag efo Nelson Mandela.
Oedd gen i feddwl mawr ohono fo. Dwi wedi bod i Dde Affrica ac wedi gweld lle cafodd o ei garcharu am yr holl amsar.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi’n ddipyn o gasglwr. Dwi’n ofnadwy am greiriau ac am hel petha’.
Fydda i’n hel unrhyw beth sy’n mynd â fy sylw i. O’n i’n ofnadwy am hel hen betha’.
Mae gen i lot o glust-dlysau… llawer gormod ohonyn nhw. Fydda i’n meddwl weithia’, ‘i be?’, ond dyna fo! Dwi’n licio pethau felly.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Dwi’n meddwl mai be faswn i’n ei wneud ydy diolch i ’Ngwaredwr am gael byw gyhyd. Mae gen i ffydd mawr.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llun teulu. Mae’r teulu yn bwysig iawn i fi. Mae gen i un ŵyr ac un wyres a dwi’n hynod o lwcus, dy’n nhw ond yn byw rhyw ddwy filltir i ffwrdd ar ffarm i fyny’r ffordd.
Dwi’n gweld lot arnyn nhw a ’dan ni’n dod ymlaen yn dda fel teulu ac yn griw hapus iawn pan fyddwn ni efo’n gilydd.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
J.O. Roberts – dyna un o’n arwyr mwyaf achos bo' fi yn ymddiddori yn y byd llefaru ac wedi ennill yn y Genedlaethol.
Hefyd mi wnaeth y plant, Edward a Sarah actio gyda J.O yn y gyfres deledu, Lleifior. J.O oedd eu taid nhw yn y gyfres a ddaru ni gadw mewn cysylltiad hefo fo wedyn.
Taswn i ond yn meddu ar lais fel J.O. Oedd o'n ŵr bonheddig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Ionawr