Dyn, 55, yn euog o ymosod yn rhywiol ar fachgen, 14
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 55 oed o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o ymosod yn rhywiol ar fachgen 14 oed.
Cafodd Andrew Mackenzie ei ganfod yn euog gan y rheithgor o bedwar cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn ar ddau achlysur ym mis Mai 2021.
Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd fod yr achos yn un "brwnt a hynod annymunol" a bod Mackenzie yn wynebu "dedfryd hir o garchar".
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 14 Mehefin.
Clywodd y llys fod Mackenzie wedi bod yn droseddwr ers ei fod yn 18, a'i fod wedi ei erlyn am dwyllo, ffugio, yn ogystal â thyfu a chyflenwi canabis yn y gorffennol.
Nododd y barnwr nad oedd ganddo unrhyw erlyniadau perthnasol i'r achos hwn, ond fod ganddo "record ofnadwy".
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod Mackenzie - ar ôl "canfod Duw" - wedi bod yn gyfarwyddwr ar elusen o'r enw Poor and Hungry ac wedi bod yn rheoli caffi yn y brifddinas o'r enw Coffee and Cakes.
Dywedodd y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ei fod wedi cwrdd â Mackenzie yn ei gaffi a'i fod o wedi cynnig prynu ffôn newydd iddo.
Yn ei gyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y bachgen ei fod wedi mynd i ystafell wely yng nghefn yr adeilad a'i fod wedi gweld camerâu wedi eu gosod yno.
Nododd fod Mackenzie wedi canmol ei gorff, ac wedi cynnig arian iddo dynnu ei ddillad.
'Roedd yn gwybod mod i'n 14'
Ychwanegodd y bachgen fod Mackenzie wedi ei gusanu a'i gyffwrdd mewn modd rhywiol, gan wneud iddo deimlo'n "nerfus ac anghyfforddus".
Dywedodd hefyd fod Mackenzie wedi gofyn iddo ffilmio ei hun yn dweud ei fod yn 18 oed, ond "roedd o'n gwybod fy mod i'n 14", meddai.
Clywodd y llys bod y bachgen wedi dychwelyd i'r ystafell ar ail achlysur ar 30 Mai 2021 gan ei fod yn credu y byddai Mackenzie yn rhoi "lot fawr o arian" iddo.
Dywedodd yn ei gyfweliad fod Mackenzie wedi rhoi £100 iddo mewn arian parod, ond ei fod o "wedi ei gwneud hi'n glir" nad oedd o eisiau cael rhyw.
Fe ddaeth profion fforensig gan yr heddlu o hyd i DNA Mackenzie a'r bachgen ar ddillad gwely yn yr ystafell.
Roedd Mackenzie wedi dweud wrth y llys fod ganddo "deimlad rhyfedd yng nghefn fy mhen" nad oedd y bachgen yn 18 oed, ond nad oedd o'n gwybod pa mor ifanc oedd o.