Carcharu dyn, 19, am ddegau o droseddau rhyw yn erbyn plant

Roedd troseddau Cory Jones yn erbyn 37 o ddioddefwyr - oedd yn amrywio rhwng 10 ac 16 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei garcharu am gyfanswm o 69 o droseddau, gan gynnwys troseddau rhyw yn erbyn plant a throseddau cysylltiedig.
Ddydd Gwener, cafodd Cory Jones o Ynyswen, Treorci, yn Rhondda Cynon Taf, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am y troseddau.
Roedd Jones yn 17 ac 18 oed ar adeg y troseddu, oedd yn erbyn 37 o ddioddefwyr rhwng 10 ac 16 oed.
Roedd y cyhuddiadau yn ei erbyn yn cynnwys achosi i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, cyfathrebiadau rhywiol gyda phlentyn a rhannu lluniau personol heb ganiatâd.
Cafodd ddedfryd wyth mlynedd, a bydd yn y carchar am o leiaf pum mlynedd a phedwar mis.
'Wedi ei lygru trwy wylio pornograffi'
Bu Cory Jones yn cael y plant i ymddiried ynddo, cyn gofyn iddyn nhw i yrru lluniau a fideos o'u hunain iddo, clywodd y llys.
Pan roedd rhai o'r plant yn gwrthod ceisiadau pellach ganddo, bu'n eu blacmelio i anfon mwy o ddelweddau, gan fygwth cyhoeddi delweddau oedd wedi'u gyrru iddo yn flaenorol ar gyfryngau cymdeithasol.
Bu Jones hefyd yn gyrru lluniau a fideos anweddus o'i hun at y plant, a chafodd 172 o ddelweddau anweddus o blant eu darganfod ar ei ffôn pan gafodd ei arestio.
Clywodd y llys ei fod wedi cysylltu â'r dioddefwyr ar blatfform Snapchat, gan ddefnyddio ffugenw weithiau a dweud celwydd am ei oedran.

Cafodd Cory Jones ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd
Dywedodd James Wilson, yr erlynydd, wrth y llys fod y dioddefwyr yn teimlo'n sâl, wedi dychryn ac wedi'u "bradychu", pan ofynnodd Jones am ddelweddau rhywiol ganddyn nhw.
Mewn datganiad dywedodd un dioddefwr oedd yn 12 oed ar adeg y troseddau, fod y digwyddiad wedi gwneud iddi "deimlo'n nerfus".
"Roeddwn i'n poeni y byddai pobl yn darganfod beth roeddwn i wedi'i wneud ac yn fy nhrin yn wahanol."
Dywedodd dioddefwr arall ei bod wedi "ymddiried ynddo ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn ffrind i mi".
"Mae wedi gwneud i mi deimlo'n wirion am gredu popeth a ddywedodd wrtha i."
'Tagtegau twyllodrus'
Fe wnaeth yr amddiffynnwr, John Ryan, annog y barnwr i ystyried diffyg aeddfedrwydd Jones a'i oedran ar adeg y troseddu.
Ychwanegodd fod Jones yn teimlo edifeirwch gwirioneddol.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins bod gweithredoedd Jones "wedi cael effaith ddinistriol ar yr unigolion a'u teuluoedd".
"Bydd y niwed y gwnaethoch chi achosi iddynt yn parhau, dwi'n eithaf siŵr, am flynyddoedd lawer i ddod."
Disgrifiodd y barnwr yr achos fel un oedd yn "tynnu sylw at beryglon plant yn cael mynediad at gyfryngau cymdeithasol heb oruchwyliaeth".
Dywedodd hefyd fod Jones wedi ei ynysu'n gymdeithasol, yn berson unig ac wedi cael ei "lygru" trwy wylio pornograffi.
Bydd Jones yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhyw ac fe fydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes, meddai Heddlu'r De.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville fod Jones wedi targedu menywod ifanc yn fwriadol ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dywedodd gelwydd am ei oedran a defnyddiodd dactegau twyllodrus," meddai.
"Mae ei gam-fanteisio ar blant oedd yn agored i niwed, er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun, yn ein hatgoffa'n glir o'r peryglon sy'n bodoli ar y we," ychwanegodd.