Lluniau: Gŵyl Fach y Fro

Tara Bandito yng Ngŵyl Fach y Fro
- Cyhoeddwyd
Roedd parti mawr ym Mro Morgannwg dros y penwythnos, wrth i Ŵyl Fach y Fro ddathlu deng mlynedd.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ger y traeth yn Ynys y Barri, ac eto eleni daeth miloedd i fwynhau'r gerddoriaeth ac arlwy'r stondinau dan haul disglair.
Dyma rai lluniau o'r diwrnod.

Y cyflwynydd a cherddor Angharad Rhiannon oedd yn cyflwyno'r bandiau ar y brif lwyfan. Mae Angharad yn un o gyflwynwyr Bro Radio, gorsaf radio gymunedol Bro Morgannwg

Fe ymunodd Tara Bethan gyda Gai Toms ar y brif lwyfan. Yn 2019 fe wnaeth Gai Toms a'r Banditos rhyddhau'r albym Orig, sydd wedi ei ysbrydoli gan hanes bywyd Orig Williams, tad Tara.

Torri syched ger y brif lwyfan

Taran yn perfformio ar y brif lwyfan. Mae haf prysur yn wynebu'r band o Gaerdydd, gyda gigs yn Eisteddfod yr Urdd, Ffiliffest, Yr Eisteddfod Genedlaethol a mwy.
Rose Datta, prif leisydd y band, oedd enillydd cyfres Y Llais, S4C yn gynharach eleni.

Daeth Ysgolion Bro Morgannwg ynghyd i ganu detholiad o sioe gerdd Les Misérables ar y brif lwyfan...

Ac roedd cannoedd yno i'w cefnogi!

Fe wnaeth Bwncath ryddhau albwm newydd yr wythnos diwethaf, ac roedd cynulleidfa Gŵyl Fach y Fro i weld wrth eu bodd â'r caneuon newydd.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

Bwncath yng Ngŵyl Fach y Fro

Roedd adloniant hefyd ar y bandstand, gan gynnwys y grŵp perfformio amgen, Kitsch n Sync.

Cadog, y ddeuawd gwerin amgen ar y brif lwyfan. Fe wnaeth Cadog ennill Brwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, 2024.

Pen-blwydd hapus i Ŵyl Fach y Fro!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Mai