Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon

Y dorf yn heidio yn eu miloedd o flaen wal yr Anglesey
- Cyhoeddwyd
Roedd tre'r Cofi dan ei sang ar 10 Mai ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon.
Roedd yna rywbeth at ddant pawb; bwyd, diod, cerddoriaeth, adloniant, cynnyrch Cymreig, celf, cwmni da a thywydd braf.
Dyma flas o'r diwrnod gan y ffotograffydd Iolo Penri.

Y gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser hael i gasglu arian i gynnal yr ŵyl

Pobl talaf yr ŵyl

Pwdinau Eidalaidd yn nhre'r Cofi

Bu corau lleol yn rhoi adloniant drwy'r dydd

Dafydd ap Gwilym ddywedodd 'Prynu rhost, nid er bostiaw, / A gwin drud, mi a gwen draw'

Mae rhywun yn mwynhau ei hun

Amser am ddawns

Cŵn poeth yn tynnu dŵr i ddannedd

Gormod o ddewis!

Roedd hyd yn oed stondin fwyd i gŵn yn yr ŵyl eleni. Tybed be' gafodd y ddau gi bach yma i ginio?

Ciwio am bizza

Fel ganodd Geraint Lovgreen; 'Mae'r haul yn dal i godi calonnau'r dref fach hon fel pob tref ddifyr arall yn y byd'

Ychydig o jazz o flaen tafarn Jac y Do

Amser nŵdls
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024