Ymchwilio i honiadau am bobl yn gwylio llawdriniaethau heb ganiatâd

LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd iechyd wedi lansio ymchwiliad wedi i staff godi pryderon fod pobl wedi bod yn gwylio llawdriniaethau o fewn theatrau ysbyty heb ganiatâd.

Cafodd y pryderon eu nodi mewn arolwg mewnol gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o'r gwasanaeth theatrau.

Nid yw aelodau'r cyhoedd yn cael gwylio gweithdrefnau o fewn theatrau fel rheol, meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd, er bod hynny'n digwydd ar adegau prin ar ôl dilyn prosesau llym.

Ychwanegodd llefarydd eu bod bellach yn cynnal "adolygiad dwys a thrylwyr o'r theatrau" yn dilyn yr "honiadau pryderus dros ben", ond nid yw hynny wedi ei orffen eto.

Nid yw'n glir sut y cafodd yr unigolion fynediad i'r theatrau.

Dywedodd llefarydd eu bod "eisiau sicrhau cleifion a'u teuluoedd ein bod wedi ymroi i gynnig gofal diogel ac o'r safon uchaf" a bod "diogelwch cleifion a chyfrinachedd yn hynod o bwysig i ni".

Mae'r adolygiad yn edrych ar "arferion gwaith a sut mae timau'n cael eu strwythuro a'u rheoli yn benodol yn Ysbyty Athrofaol Cymru" yng Nghaerdydd.

Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiadau yn "bryderus", yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles fod yr adroddiadau yn "bryderus".

"Pan ddes i wybod am hyn ro'n i'n poeni fel y byddai unrhyw un arall, a'r hyn sydd angen digwydd nawr yw ymchwiliad trylwyr," meddai.

"Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal yr ymchwiliad yna nawr, a'r hyn rydw i am ei weld - fel pawb arall - yw pa ganlyniadau fydd yn dod o'r broses honno."

Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod yr adolygiad yn "cymryd yn hirach na'r disgwyl" ond bod yr arafwch "o ganlyniad i gyfraniadau helaeth gan y gweithwyr, a'r nod o sicrhau fod gennym drawsdoriad barn o'r rheiny sy'n gweithio yn y theatrau".

"Bydd yr argymhellion terfynol yn cael eu rhannu gyda'r gweithwyr sydd wedi eu heffeithio."

Mae'r bwrdd iechyd yn annog unrhyw aelod o staff i leisio eu barn am eu pryderon.