Meddiannu 135 o feiciau trydan anghyfreithlon yng Nghaerdydd

Beiciau
  • Cyhoeddwyd

Mae dros 100 o feiciau trydan ac e-sgwteri anghyfreithlon – gan gynnwys un a allai gyrraedd 86mya – wedi'u meddiannu mewn ymgyrch arbennig a barodd fis cyfan yng Nghaerdydd.

Bu Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru yn cydweithio drwy gydol mis Awst i dargedu beiciau a sgwteri sydd wedi'u haddasu'n anghyfreithlon oddi ar strydoedd y brifddinas.

Fe gafodd 135 o feiciau anghyfreithlon eu cymryd oddi ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn Nhreganna, Heol Albany yn y Rhath, a Heol y Crwys yn Cathays.

Roedd un beic, a oedd yn gallu teithio 86mya, heb unrhyw frêcs, tra roedd un arall oedd yn cael ei reidio gan fachgen 15 oed a oedd yn cludo teithiwr yn gallu cyrraedd 70mya.

Beiciau
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd 135 o feiciau anghyfreithlon eu cymryd oddi ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn Nhreganna, Heol Albany yn y Rhath, a Heol y Crwys yn Cathays

Dywedodd Dave Sultana, sy'n arwain tîm gwarchodwyr Cyngor Caerdydd: "Mae'r beiciau yma'n beryglus ar y ffordd, ond mae'r un bobl yn achosi problemau ym mharciau'r ddinas hefyd.

"Mae'n amlwg bod ymddygiad gwrthgymdeithasol fel hyn yn atal pobl rhag mwynhau mannau gwyrdd."

Yn ystod un awr yn Nhreganna, fe gafodd tua dwsin o feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon eu meddiannu.

Beth ydi'r gyfraith?

  • Mae'n gyfreithlon reidio beic trydan heb drwydded ac nid oes angen treth na yswiriant.

  • Ond rhaid i'r beic fod â phedalau ac ni ddylai'r modur allu gwthio'r beic dros 15.5mya (25km/awr).

  • Os yw'r modur dros 250 wat neu yn gynt na 15.5mya, mae'n cael ei ystyried yn gerbyd modur ac yn dod o dan reolai'r Ddeddf Traffig Ffyrdd.

Beics
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod un awr yn Nhreganna, fe gafodd tua dwsin o feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon eu meddiannu

Mae timau plismona cymunedol Heddlu'r De wedi cael rhagor o adnoddau i geisio mynd i'r afael â lladrata ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

"Rydyn ni wedi cipio beiciau sy'n gallu gwneud rhwng 85 a 90mya," meddai'r Arolygydd Tim Ursell o Heddlu De Cymru.

"Mae hyn am roi adnoddau yn ôl ar ein strydoedd ac ymateb i'r hyn mae'r cyhoedd yn dweud sy'n broblem go iawn."

Yn ystod yr ymgyrch cafwyd arestiadau hefyd mewn cysylltiad â meddu ar arfau a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Ar ôl tynnu'r beiciau oddi ar y stryd, maen nhw'n cael eu sgrapio.

Mae'r batris yn cael eu tynnu ac yna eu hailgylchu, ond does dim modd ailgylchu'r beiciau, gan fod llawer ohonynt wedi cael addasiadau sy'n gwneud hynny'n amhosib.

Mae'r heddlu'n rhybuddio y bydd rhagor o feiciau trydan ac e-sgwteri anghyfreithlon yn cael eu meddiannu dros y misoedd nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig