'Angen moderneiddio Eisteddfodau lleol', medd swyddog newydd

Angharad Brinn MorganFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Brinn Morgan yn dweud bod "angen ystyried moderneiddio a defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael”

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am weld pwyllgorau eisteddfodau yn addasu a newid eu ffyrdd er mwyn cynnal diddordeb a denu cystadleuwyr a chynulleidfaoedd newydd.

Mae’r gantores Angharad Brinn Morgan newydd ddechrau ar ei swydd ers pythefnos, fydd yn cefnogi ac yn hybu eisteddfodau lleol - bach a mawr.

Mae oddeutu 120 o eisteddfodau drwy Gymru gyfan, yn eisteddfodau pentref neu ardal, ac eisteddfodau rhanbarthol.

Mae Angharad yn teimlo bod angen i eisteddfodau addasu a symud gyda’r oes er mwyn eu helpu i gadw diddordeb pobl.

Anodd ar eisteddfodau

Yn ôl Angharad, ei phrif rôl fydd “sicrhau bod yr eisteddfodau ma’n gallu cael eu cynnal a chynyddu’r nifer o bobl sy’n cymryd rhan ac sy’n mynychu’r eisteddfodau lleol".

Ond mae’n cydnabod bod sialensiau yn wynebu rhai eisteddfodau bach.

“Gathon ni ebost gan Eisteddfod Porth Tywyn yn ddiweddar yn dweud eu bod wedi canslo eleni o achos y niferoedd.

“Mae yn anodd, ond mae 120 o eisteddfodau bach ar hyn o bryd, sy' ddim yn ffigwr rhy ffôl.

“Byswn i ddim yn dweud eu bod mewn peryg, ond yn amlwg mae ishe bo' ni’n sicrhau bod nhw’n gwbod bo' ni yma i’w cynorthwyo nhw, bo' nhw hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hybu diddordeb ynddyn nhw.”

Ers bod yn y swydd, mae wedi sylwi ei hun bod sawl pwyllgor eisteddfod yn dweud bod eu haelodau yn heneiddio.

“Bydde’n hyfryd pe bai mwy o bobl ifanc falle’n cysylltu gyda’r pwyllgorau lleol i gynnig cymorth - mae angen gwaed newydd.”

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cynulleidfa frwd yn Eisteddfod yr Hendy, ond nid felly ymhobman

Mae Angharad yn gweld bod angen i rai pwyllgorau eisteddfodau addasu a newid eu ffyrdd er mwyn cynnal diddordeb a denu cystadleuwyr a chynulleidfaoedd newydd.

“Dwi’n meddwl bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol dros ben, ond mae’n anodd dweud wrth bwyllgorau ‘mae angen i chi newid’ achos maen nhw 'di gwneud e yn eu ffyrdd nhw am gymaint o flynyddoedd.

“Dwi’n methu dweud wrthyn nhw ‘dyma’r ffordd dylech chi wneud y gwaith’ ond dwi yn meddwl bod angen ystyried moderneiddio a defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael.”

Testunau hwyliog

Mae hefyd yn gweld bod lle i addasu’r testunau cystadlu, bod lle i eitemau mwy hwyliog ac ysgafnach, a hyd yn oed rhai rhithiol fel adeg Eisteddfod T yr Urdd - lle roedd plant a phobl ifanc yn cystadlu o’u cartrefi.

“Falle bydde’n denu mwy o bobl, achos weithiau mae mynd i’r eisteddfodau ar benwythnosau yn anodd," meddai Angharad.

"Mae bywydau prysur gyda pobl, felly falle bydden nhw’n fwy parod i gystadlu pe bai pethe yn cael eu recordio a’u danfon i mewn.”

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

“Mae Eisteddfod y Cymoedd yn y Rhondda... ‘di mynd ar drywydd eithaf modern," meddai Angharad

Un enghraifft, meddai Angharad, sydd wedi ymdrechu i addasu er mwyn ehangu apêl eu gŵyl ydy Eisteddfod y Cymoedd, fydd yn cael ei chynnal ar 18 Hydref eleni.

“Mae Eisteddfod y Cymoedd yn y Rhondda â gwefan eu hunain ac maen nhw ‘di mynd ar drywydd eithaf modern," meddai.

“Yn ystod yr eisteddfod, mae sgriniau mawr, maen nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol; fi’n credu bod nhw hyd yn oed yn defnyddio’r orsaf radio lleol i ddarlledu’r cystadlaethau.

"Felly maen nhw 'di mynd ar drywydd modern a falle bod angen i rai eisteddfodau eraill fynd lawr yr un trywydd o bosib.”

Awydd am sefydlu eisteddfodau newydd

Mae Angharad yn teimlo’n reit hyderus am ddyfodol eisteddfodau lleol, ac yn gweld bod sawl ardal yn awyddus i sefydlu rhai newydd.

“Yn yr ardal lle dwi’n byw – Castell-nedd a Phort Talbot, does dim eisteddfod leol, ond mae ‘na ddiddordeb i gychwyn eisteddfod yn yr ardal yma, felly falle mai hwn fydd fy mhrosiect cyntaf!

“Oedd rhywun o Lundain ‘di cysylltu yr wythnos ddiwethaf hefyd.

"Mae cymdeithas Gymreig reit gadarn yn Llundain, ac roedd o 'di bod mewn cysylltiad â nifer o bobl yno oedd yn dweud bod awydd yno i gychwyn eisteddfod Gymreig yn Llundain, sy’n hyfryd.

“Felly mae pobl yn ystyried cychwyn eisteddfodau lleol, newydd.

"Mae’r awydd yna, a'r gobaith yw bo’ nhw’n mynd ati i greu pwyllgorau a chychwyn yr eisteddfod.”

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael profiad o sefyll ar lwyfan, fel y criw yma yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan, yn werthfawr iawn i fagu hyder, yn ôl Angharad

Mae Angharad yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gychwyn eisteddfod yn eu hardal nhw i gysylltu ag angharad@steddfota.cymru er mwyn iddi eu helpu a’u cynghori drwy’r broses o greu eisteddfod.

Mae’r gymdeithas yn gallu darparu cefnogaeth ymarferol i helpu pwyllgorau eisteddfodau lleol gyda’u trefniadau lle bo’r angen.

“Ers i mi ddechrau, dwi 'di sylwi, mae 'na fylchau," meddai.

"Os chi’n mynd ar y wefan, dolen allanol, chi’n gallu gweld map sy’n dangos union leoliadau lle mae’r eisteddfodau’n cael eu cynnal, ond mae 'na drefi mawr fel Caernarfon a Chaerfyrddin lle does dim eisteddfodau yn yr ardaloedd yna, sy’n fy synnu i.”