Galw am ragor o gydweithio rhwng eisteddfodau lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Ar Faes y Brifwyl dywed rhai o sylfaenwyr Cymdeithas Eisteddfodau Cymru bod angen ailafael mewn ysbryd cydweithredol rhwng eisteddfodau lleol

Wrth nodi chwarter canrif ers sefydlu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru mae galw am ragor o gydweithio rhwng eisteddfodau lleol.

Pan gafodd y gymdeithas ei ffurfio y bwriad oedd cael yr eisteddfodau lleol i gefnogi a rhannu profiadau ymysg ei gilydd a hynny ar ôl i Aled Lloyd Davies grybwyll ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol fod angen dod a'r Brifwyl a'r eisteddfodau lleol yn nes at ei gilydd.

Fe gafodd gefnogaeth gan ddau eisteddfodwr brwd arall oedd yn ffrindiau iddo sef Gron Ellis, o ardal Treffynnon ac Ellis Wyn Roberts, o Fodffordd.

Fe aeth y tri ohonyn nhw at Elfed Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y pryd, a gofyn iddo gysylltu â'r eisteddfodau bach i weld a oedd modd cael cymaint â phosib at ei gilydd i gyfarfod yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

Yno fe gafodd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ei ffurfio gydag Aled Lloyd Davies yn gadeirydd, Ellis Wyn Roberts yn is-gadeirydd a Gron Ellis yn ysgrifennydd.

'Angen cydweithio ar yr un nod'

Yn ôl Ellis Wyn Roberts, fe fyddech chi yn "sylwi ar dair neu eisteddfod yn ymyl ei gilydd yn cael yr un beirniaid. Roedd yna ddiffyg cyd-drafod a chyd-'neud yn amlwg.

"Ond roedd Aled Lloyd Davies yn gweld angen dod â phwyllgorau ac ysgrifenyddion eisteddfodau at ei gilydd i drafod beirniaid a thestunau, a chystadlaethau."

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Ellis Wyn Roberts fod "eisteddfodau lleol o bosib wedi ymbellhau wrth ei gilydd" a bod angen "ailfeithrin yr eisteddfodau trwy ddod at ei gilydd"

Wrth drafod y sefyllfa o ran eisteddfodau lleol heddiw mae e'n bendant fod y neges yna yr un mor berthnasol ag erioed.

"Rwy'n meddwl bod yr eisteddfodau lleol o bosib wedi ymbellhau wrth ei gilydd. Mae y gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ardderchog, ond efallai bod pellter wedi codi."

Wrth edrych i'r dyfodol mae'n galw am "ailfeithrin yr eisteddfodau trwy ddod at ei gilydd".

Yn ôl Gron Ellis gall cydweithio esgor ar ddatblygiadau fydd o help i eisteddfodau a chystadleuwyr, a gwnaeth sôn y dylid creu deunydd newydd a chomisiynu unawdau.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae ysbryd cydweithredol yn gallu creu llawer a helpu i ddatblygu eisteddfodau lleol," dywedodd Gron Ellis

Dywedodd: "Mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol ac wedi esgor ar unawdau fel Cilfan y Coed, geiriau Aled Lloyd Davies a cherddoriaeth Rhys Jones, sy'n glasur erbyn hyn ac yn ffefryn gan gantorion.

"Mae ysbryd cydweithredol yn gallu creu llawer a helpu i ddatblygu eisteddfodau lleol."

Wrth edrych i'r dyfodol mae Gron Ellis yn cyfaddef fod denu cystadleuwyr yn ôl i'r eisteddfodau yn heriol.

"Mae cymaint wedi newid bellach. Roedd pellter rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a'r 'steddfodau lleol chwarter canrif yn ôl, gyda chystadleuwyr yn dod i'r Brifwyl ond ddim yn cefnogi yr eisteddfodau lleol, a ddim yn gweld gwerth iddyn nhw.

"Mae hynny dal yn amlwg heddi yn anffodus."

Ond er ei bryderon teimla bod "dal cyfle i ddenu cystadleuwyr yn ôl trwy gydweithio" a sicrhau fod pob eisteddfod yn anelu at yr un nod.