Abergele: JD Wetherspoon yn dwyn achos llys yn erbyn tafarn

Tafarn Pen-y-Bont yn Abergele
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob cyfeiriad at "Wetherspoon Limited" wedi ei dynnu o'r arwyddion newydd, sydd hefyd yn ailsefydlu enw'r dafarn fel "Pen-y-Bont"

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gwmnïau tafarndai mwyaf y DU yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn tafarn yng ngogledd Cymru wedi i arwyddion blaenorol awgrymu ei fod yn safle "Wetherspoons".

Roedd arwyddion y tu allan i dafarn Pen-y-Bont yn Abergele, sydd heb unrhyw gysylltiad â JD Wetherspoon PLC, yn ei ddisgrifio fel tafarn “Wetherspoons Limited”.

Yn gynharach eleni roedd y dafarn eisoes wedi sbarduno ffrae wedi iddi gael ei hailenwi fel 'The Bridge Head', gyda’r enw Cymraeg gwreiddiol ond yn ymddangos mewn ysgrifen llawer llai.

Ond ym mis Mai, bedwar mis yn unig ar ôl i’r arwyddion newydd ymddangos, fe gafon nhw eu disodli, gan adfer yr hen enw Cymraeg a dileu holl frandio “Wetherspoons Limited”.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr arwyddion blaenorol yn awgrymu fod "The Bridge Head" yn dafarn "Wetherspoons Limited"

Dywedodd llefarydd ar ran JD Wetherspoon, sydd â 48 o dafarndai yng Nghymru a dros 800 ar draws y DU: “Cawsom ein hysbysu bod tafarn yn Abergele yng Nghonwy yn defnyddio’r enw Wetherspoons Ltd ar eu harwyddion.

“Er gwaethaf nifer o geisiadau i berchnogion y dafarn ddileu’r cyfeiriad at Wetherspoons, fe wnaethon nhw wrthod ac felly rydyn ni wedi gorfod cychwyn achos llys yn gofyn am orchymyn llys iddyn nhw wneud hynny.

"Rydym yn parhau i obeithio y bydd modd datrys y mater mewn modd cyfeillgar."

Ond dywedodd perchennog y dafarn, Michael Watts, nad oedd yn gyfrifol am osod yr arwyddion a'u bod wedi eu gosod gan "denant blaenorol sydd ddim bellach yn gysylltiedig â Phen-y-Bont".

Ar ôl cael ei dderbyn i'r ysbyty ym mis Ionawr ac ildio'r gwaith o redeg y dafarn o ddydd i ddydd i'r tenant, wedi iddo ddychwelyd ychwanegodd Mr Watts ei fod wedi gwario "miloedd o bunnoedd" yn gosod arwyddion ac ail-sefydlu'r enw Cymraeg.

Ychwanegodd mai "cael enw Cymraeg ar dafarn mewn tref Gymreig yw'r peth iawn i'w wneud".

"Doeddwn i ddim eisiau i'r enw newid. Pen-y-Bont ydy o wedi bod ers 200 mlynedd," meddai wrth BBC Cymru.

“Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi clywed y diwethaf am hyn pan wnes i ei newid yn ôl i Pen-y-Bont, ond yn amlwg mae Wetherspoons yn dal i fynd ar fy ôl.

"Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i newid yr enw yn ôl. Rwyf wedi talu am arwyddion newydd ac eisiau siarad hefo Wetherspoons i geisio setlo hyn."

Pynciau cysylltiedig