Sgwrs, cynhesrwydd a chawl am ddim

Dau yn bwyta cawl
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnod y gaeaf wedi'r Dolig yn gallu bod yn ddigon llwm, yn enwedig efo costau byw yn brathu...

Yr ateb i rai yng Nghaernarfon oedd cyfarfod am sgwrs dros gawl - a hynny am ddim - yng Nghapel Caersalem.

Ers dwy flynedd mae rhai o'r aelodau wedi bod yn trefnu Cawl a Chwmni bob dydd Iau, rhwng 11-2. Y syniad ydi cynnig gofod cynnes, cwmni a chymorth wrth i gostau byw gynyddu ac mae'n agored i unrhywun.

Wedi saib byr dros yr ŵyl, roedd y drysau wedi ail-agor erbyn dydd Iau cyntaf 2024, fel mae'r lluniau yma yn dangos.

Disgrifiad o’r llun,

Bore Iau, a'r trefnydd Maggie Hughes yn gosod un o'r arwyddion ar Stryd Garnon, Caernarfon, lleoliad Capel Caersalem. Er mai aelodau'r capel sy'n cynnal y digwyddiad a nifer o'u cyd-aelodau sy'n dod am gawl a sgwrs, mae'r gwahoddiad yn agored i unrhywun

Disgrifiad o’r llun,

Cyn y Nadolig daeth tri pherson heb unrhyw gysylltiad â'r capel am gawl ond anaml mae hynny'n digwydd meddai Maggie Hughes: “Dwi’n siŵr bod lot o bobl efo anghenion ond mae’n her i bobl i ddod i gapel os ydi nhw heb arfer efo hynny, mae’n haws os ydi nhw’n adnabod pobl sy’n dod yma.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 11am, a'r drws ar agor wrth i Sylvia Prys Jones ddechrau paratoi'r llysiau ar gyfer y cawl yn y gegin sy'n rhan o'r capel

Disgrifiad o’r llun,

... ac i'r crochan, ac Ann Griffith a Maggie Hughes yn cadw golwg. Meddai Maggie: "Roedden ni’n meddwl fel capel sut allwn ni ymateb i’r argyfwng costau byw, beth allwn ni wneud efo beth sydd ganddon ni? Mae ganddon ni adeilad a chegin a phobl wnaiff ddod i helpu felly wnaethon ni agor y capel i bobl ddod i gael cawl a sgwrs."

Disgrifiad o’r llun,

Ann Griffith, Sylvia Prys Jones a Maggie Hughes. Meddai Maggie: “'Da ni’n trio gwneud cawl gwahanol bob tro – a gwneud digon i tua 25-30. Fel arfer mae ganddo ni beth dros ben a 'da ni’n rhoi o i bobl ryda ni’n gwybod sydd ddim eisiau dod yma, neu ddim yn gallu dod, ond fyddai'n gwerthfawrogi cawl – does dim yn mynd yn wastraff."

Disgrifiad o’r llun,

Cyn bod y cawl yn barod mae 'na baned ar gael - a Maggie Hughes yn paratoi'r coffi yn y capel

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lydia, wyres Ann, yn helpu heddiw. Meddai Ann: “Mae'r bobl ifanc yn dod â lot o fywyd yma. Maen nhw eisiau helpu a bod yn rhan o bob dim ac mae’n rhoi’r cyfle iddyn nhw gael bod yn garedig. Mae'n rhoi’r cyfle iddyn nhw gymdeithasu, cross-generational fel maen nhw’n ddweud.”

Disgrifiad o’r llun,

... a Gwenno Hughes o Rostryfan, a Glenys Ellis o Bontnewydd, yn elwa. Meddai Gwenno: “Dwi’n dod bob wythnos ac yn trio cefnogi – y syniad ydi bod o’n le i bobl i gyfarfod, a bod pobl unig yn gallu dod yma hefyd. Mae’n le neis i ddod a siarad, a gweld ein gilydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Roberta Parry yn un o ffrindiau Gwenno. Meddai: “Mae 'na rai sy'n dod yma yn byw ar ben eu hunain ac mae'n le i ddod am sgwrs. Dwi’n mynd i gapel arall – a dwi ddim yn hogan Dre chwaith – o Ynys Môn ydw i. Weithiau mae pobl yn son am bobl Caernarfon ac yn meddwl mod i’n adnabod y bobl maen nhw'n sôn amdanyn nhw!”

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r rhesymau dros sefydlu’r fenter oedd cynnig lle cynnes i bobl gyfarfod wrth i gostau byw godi - yn cynnwys pris tanwydd

Disgrifiad o’r llun,

A hithau'n wyliau Dolig roedd sawl aelod ifanc o'r capel yno ddechrau Ionawr. Yn ôl un o'r gwirfoddolwyr Sylvia Prys Jones: “Mae’n gwneud iddyn nhw sylweddoli pan maen nhw’n ifanc bod 'na bobl llai ffodus na nhw.”

Disgrifiad o’r llun,

Michael Owen a Manon Williams, sy'n aelodau o'r capel

Disgrifiad o’r llun,

Gyda phawb wedi cael eu bwydo, does ond un peth arall i'w wneud tan y dydd Iau canlynol...