Rhybudd melyn am law trwm i Gymru ddydd Llun
![Glaw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/40f7/live/14c85b10-7989-11ef-8c1a-df523ba43a9a.jpg)
Mae rhybudd oren - mwy difrifol - mewn grym ar gyfer mannau dros y ffin yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Llun.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am hanner nos ac mae'n para nes 23:59 nos Lun.
Yn wreiddiol roedd yn weithredol ar gyfer pob rhan o Gymru oni bai am Ynys Môn a Sir Benfro.
Ond fore Llun cafodd ei gwtogi, ac mae bellach mewn grym ar gyfer pum sir yn y de-ddwyrain yn unig - Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen.
Daw wedi sawl rhybudd am stormydd a glaw trwm ar gyfer Cymru gyfan dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw trwm achosi trafferthion i deithwyr.
Fe all teithiau bws a thrên gymryd mwy o amser, tra bod llifogydd ar y ffyrdd hefyd yn bosib.