Gwirfoddolwyr menter busnes dadleuol yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwyr Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin wedi ymddiswyddo, gan honni eu bod wedi wynebu "aflonyddu a cham-drin heb ei gyfiawnhau" gan "rai unigolion".
Mewn datganiad ar dudalen Facebook y corff, mae'r cyfarwyddwyr gwirfoddol hefyd wedi cadarnhau y bydd pleidlais newydd yn cael ei chynnal am ddyfodol y fenter "yn dilyn cyngor cyfreithiol".
Bydd y bleidlais yn cael ei rhedeg a'i gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Mae disgwyl i fusnesau lleol gyfrannu rhan o'u gwerth trethiannol tuag at ariannu'r Ardal Gwella Busnes er mwyn hybu canol y dref.
Ond mae'r cynllun wedi bod yn ddadleuol tu hwnt yng Nghaerfyrddin, gyda chwynion am dryloywder ac atebolrwydd y cynllun.
Roedd yr Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin yn cynnal pleidlais ynglŷn ag a fyddai'n parhau am dymor arall.
Anhapus derbyn biliau
Ym mis Mawrth 2022 fe wnaeth dros 50 o fusnesau Caerfyrddin gyflwyno her gyfreithiol ar ôl derbyn biliau i ariannu Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin.
Cafodd y corff ei sefydlu yn 2020 gyda'r bwriad o gynyddu elw yn y dref, gwella proffil Caerfyrddin, gwella'r profiad parcio a lleihau nifer yr adeiladau gwag.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, fe wnaeth 130 o fusnesau gymryd rhan yn y bleidlais i sefydlu'r Ardal Gwella Busnes.
Ar y pryd nodwyd ei bod hi'n ofynnol i fusnesau lleol dalu canran o'u gwerth trethiannol tuag at gronfa ariannol arbennig, sy'n cael ei defnyddio i ariannu mentrau i wella canol y dref.
Roedd disgwyl i Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin godi £165,000 yn flynyddol.
Ond roedd nifer o fusnesau yn anhapus iawn ar ôl derbyn biliau i ariannu'r corff newydd pan oedden nhw wedi gorfod cau am dri mis oherwydd y pandemig.
Roedd eraill yn dweud nad oedden nhw'n ymwybodol o bwrpas y taliadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021