Gwyntoedd cryf Storm Ashley yn taro rhannau o Gymru

Tonnau mawr yng Nghricieth ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae yna wyntoedd cryf iawn yn siroedd gogledd orllewin ac ar hyd arfordir y gorllewin wrth i storm fawr gyntaf y tymor newydd daro'r DU.
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am wynt sy'n effeithio ar siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion a Sir Benfro yn sgil Storm Ashley.
Fe dddaeth i rym am 03:00 fore Sul ac fe fydd y para tan 23:59 nos Sul.
Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 65 mya yn gyffredinol mewn mannau mewndirol, a hyd at 70 mya mewn mannau arfordirol ble mae llanw mawr yn ffactor ychwanegol.

Mae'r rhybudd melyn am wynt mewn grym tan ganol nos Sul
Roedd yna rybudd melyn ar wahân am law trwm ar hyd y de ond fe ddaeth hwnnw i ben am 12:00 dydd Sul.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd, trafferthion i yrwyr a theithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Mae manylion diweddaraf rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yma, dolen allanol.