Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40

- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Derwen-fawr, rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, am 08:00 fore Mercher, 23 Gorffennaf.
Roedd y fenyw fu farw yn gyrru Renault Clio coch, tra bod gyrrwr car arall, Audi Q5 glas, wedi cael anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion, neu unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd o gwmpas amser y digwyddiad, i gysylltu â nhw.