Apel am ddiogelwch gyda llai o achubwyr bywyd ar draethau
Gwirfoddolwyr yr RNLI yn achub pobl aeth i drafferth ger Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae elusen y badau achub (RNLI) yn rhybuddio'r cyhoedd bod y rhan fwyaf o'u gwasanaethau achub bywyd wedi dirwyn i ben ar draethau Cymru am yr haf.
Maent yn erfyn ar bobl i gadw’n ddiogel wrth ymweld â’r arfordir dros benwythnos poeth.
Gyda sawl ardal wedi gweld tymheredd o 30C ganol yr wythnos, dywedon fod cynnydd yn nifer y byrddau padlo sydd wedi’u hachub yn ddiweddar.
Maen nhw wedi rhannu cyngor wrth annog pobl i fod yn ofalus.
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
Dywedodd Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr Rhanbarthol yr RNLI:
“Gyda thywydd cynhesach mae’n bosib y bydd llawer yn gwneud y gorau o’r nosweithiau, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf bu cynnydd yn nifer y byrddau padlo sy’n cael eu hachub…
“Rydym yn gofyn i bobl barhau i gymryd gofal a bod yn ymwybodol o’r peryglon.
“Os ydych chi’n bwriadu nofio ar draeth sy’n cael ei oruchwylio gan achubwyr bywyd, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn nofio rhwng y baneri coch a melyn gan mai dyma’r ardal fwyaf diogel ac mae achubwyr bywyd yn ei fonitro’n fwyaf agos.”

Mae Traeth Mawr, Tyddewi, yn un o'r ychydig draethau lle fydd gwasanaethau achub RNLI yn rhedeg y penwythnos hwn
Yn ddiweddar, mae sawl achos yng Nghymru o bobl yn mynd i drafferthion yn y dŵr.
Cafodd dau berson ar fyrddau padlo eu hachub gan RNLI Ceinewydd yr wythnos ddiwethaf ar ôl cael eu chwythu oddi wrth y lan yng Ngheredigion gan wyntoedd cryfion.
Yr wythnos hon, mae achosion wedi bod yn Noc y Barri a Phorthcawl hefyd lle mae’r RNLI wedi gorfod achub pobl sydd wedi mynd i drafferthion.
Gyda’r gwyliau ysgol a thymor yr haf wedi dirwyn i ben, mae rhan fwyaf o wasanaeth achubwyr bywyd yr RNLI ar draethau Cymru hefyd wedi dod i derfyn.
Ble fydd yr RNLI y penwythnos hwn?
Rhai traethau yn unig fydd yn cynnig gwasanaeth achub bywyd RNLI y penwythnos hwn yng Nghymru, sef:
Traeth Mawr, Tyddewi;
Traethau Rest Bay a Trecco Bay, Pen- y-Bont ar Ogwr;
Traethau Bae Caswell a Langland, Gŵyr.

Mae disgwyl penwythnos prysur ar draethau Cymru, fel ym Mhorthcawl, oherwydd y tywydd poeth
Mae Luis Evans yn oruchwyliwr achubwyr bywyd RNLI yn ne Cymru, sy’n gyfrifol am tua wyth o draethau o Ynys y Barri i Rest Bay.
Dros yr haf, mae’n dweud fod rhai pobl wedi cael trafferthion gydag amseroedd y llanw yn benodol.
“Mae lot o bobl yn cael eu dal allan gyda hynna”, meddai.
Atgyfnerthodd Luis sylwadau'r RNLI hefyd, drwy sôn am drafferthion yn ymwneud â byrddau padlo yn benodol.
“Mae lot o drafferthion wedi bod y flwyddyn yma achos mae wedi bod yn eithaf gwyntog yr haf yma,” meddai.
"Mae pobl dal yn mo'yn mynd allan.”

Bu ymdrech achub gan yr RNLI ym Mhorthcawl yr wythnos hon
'Ffoniwch am help'
Wrth rannu cyngor ar gyfer y tymor newydd a’r tywydd poeth disgwyliedig, dywedodd:
“Rydyn ni yn disgwyl fydd mwy o bobl yn mynd i’r traeth ym Medi, yn enwedig achos bod yr haf wedi bod yn eithaf gwael o ran tywydd.
"Mae ‘na draethau sydd dal gyda gwasanaeth achubwyr bywyd arnyn nhw felly beth fydden i’n awgrymu i bawb yw i ymweld â’r traethau yna achos dyna sut ry’ch chi’n mynd i gadw fwyaf saff.
"Ac hefyd, wrth gwrs, os oes unrhyw un angen help, galwch 999, gofyn am y coastguard, mae lifeboats dros Gymru i gyd yn gallu dod a helpu.
"Dy’n ni ddim yn poeni am y peth ond ry’n ni eisiau cael y neges allan yna er mwyn i bobl gadw’n saff," meddai.
Mae manylion llawn, sy’n cynnwys dyddiadau gwasanaeth achubwyr bywyd traethau Cymru, i’w gweld ar wefan yr RNLI.