Dinistrio gwely blodau mewn ffrae gyda phentrefwyr

Gwely blodauFfynhonnell y llun, Andy Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fideo o Mike Hodgson a Shirin Poostchi yn dinistrio gwely blodau ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl wedi dinistrio gwely o flodau gwyllt mewn ffrae gyda phentrefwyr yn Sir y Fflint.

Fe wnaeth Mike Hodgson, 54 oed, dynnu'r blodau a pherlysiau lai na diwrnod wedi iddyn nhw cael eu plannu mewn gardd gymunedol oedd y tu allan i'w dŷ.

Mae pobl yn honni ei fod o a'i bartner, Shirin Poostchi, 55, wedi defnyddio offer i ddinistrio'r ardd ym mhentref Gwaenysgor, Sir y Fflint.

Dywedodd Mr Hodgson bod y digwyddiad yn ymwneud â dadl hir ac nad oedden nhw wedi bod yn ymosodol.

Cafodd y cwpl eu ffilmio yn sefyll ar y pridd ac yn tynnu'r planhigion o'r gwely blodau.

Dyw Mr Hodsgon heb ymateb i gais BBC Cymru am sylw ond dywedodd wrth asiantaeth Wales News Service: "I fod yn onest, dydyn ni ddim eisiau delio gyda hyn."

"Rydym yn trio cario 'mlaen gyda'n diwrnod yn y gwaith."

Yn siarad gyda'r Daily Mail, dywedodd Mr Hodsgon bod y gwely blodau ar ei eiddo busnes a heb gael ei greu o ddeunyddiau eco gyfeillgar.

"Mae ein cwmni wedi ymrwymo i ailgylchu ac ynni gwyrdd, ac rydym wastad wedi anelu i gynnal ein safle mewn ffordd sy'n cyd-fynd gyda'r gwerthoedd yma."

Ychwanegodd ei fod wedi dweud wrth yr unigolion oedd yn gyfrifol am blannu'r blodau i symud yr ardd o fewn 24 awr, neu y byddai yn cael gwared ohoni ei hun.

Codi blodauFfynhonnell y llun, Andy Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Hodgson bod y blodau wedi cael eu plannu ar ei eiddo busnes gyda deunydd oedd ddim yn ecogyfeillgar

Mae pobl leol yn dweud bod y ddadl gynllunio wedi dechrau pan symudodd Mr Hodgson i'r pentref rhyw ddeng mlynedd yn ôl.

Dywedodd cymydog Andy Clarke, 58 oed, bod y blodau wedi cael eu plannu gyda chefnogaeth y cyngor cymuned a'i fod wrth ymyl tir y cwpl, nid arno.

"Roedd yn rhaid i aelodau'r cyhoedd eistedd ar y gwely i'w stopio nhw rhag ei ddinistrio."

Ychwanegodd bod y gwely yn rhan o'r gystadleuaeth Britain in Bloom, ac wedi cael ei blannu i "fywiogi" yr ardal.

'Gobeithio bydd y mater yn cael ei ddatrys'

Dywedodd Mark Isherwood, aelod seneddol Ceidwadol dros Ogledd Cymru ei fod yn "siomedig bod un aelwyd wedi ymddwyn yn unochrog yn erbyn gweithredoedd a bwriad y gymuned ehangach."

Er iddo ddweud nad yw'n gallu cynnig sylw pellach, mae Mr Isherwood yn gobeithio bydd y mater yn cael ei ddatrys fel "na fydd pobl yn y gymuned yn teimlo mewn perygl na'n anghyfforddus pan maen nhw allan yn eu pentref."

Dywedodd Arolygydd Wesley Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydw i yn ymwybodol o bryderon sydd wedi codi gan drigolion ardal Gwaenysgor, a lluniau sydd yn ymwneud â'r digwyddiad wedi cael eu rhannu ar gyfrangau cymdeithasol,

"Cyn y digwyddiad, rydw i wedi bod yn trafod gyda phartneriaid perthnasol ac aelodau'r senedd i ddeall y pryderon a materion o fewn y pentref, ac i allu cynnig cefnogaeth gymunedol hir-dymor."