Dynes leol, 31, wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghyffordd Llandudno

Ffordd 6G, Cyfforff LlandudnoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 07:40 fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghyffordd Llandudno ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd 6G ger archfarchnad Tesco tua 07:40 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur.

Cafodd gyrrwr y beic, dynes leol 31 oed, ei chludo i'r ysbyty ond bu farw o'i hanafiadau.

Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod, ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.