Pontarddulais: Cadarnhau siop ar ôl 'asesu opsiynau'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl hir ddisgwyl daeth cadarnhad fod cwmni Co-op yn bwriadu agor siop newydd ym Mhontarddulais.
Bu pryder yn lleol ynglŷn ag union fwriad y cwmni oherwydd oedi cyn cyhoeddi dyddiad ar gyfer ei hagor.
Mae'r siop ar safle hen dafarn boblogaidd y King yn y pentref, a gaeodd yn 2018.
Dywedodd llefarydd ar ran y Co-op eu bod wedi bod yn "adolygu'r opsiynau ar gyfer y safle" a'u bod nawr yn bwriadu agor y siop mewn uned 2,500 troedfedd sgwâr.
Does dim dyddiad penodol wedi ei glustnodi eto ar gyfer yr agoriad, ond yn ôl y llefarydd fe fyddan nhw'n ei gadarnhau cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd mai "gwasanaethu a chefnogi'r gymuned leol" yw'r bwriad.
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
Roedd rhai yn y pentre'n poeni na fyddai'r siop yn agor o gwbl gan fod yr adeilad newydd, a godwyd ar ôl dymchwel yr hen dafarn, wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn.
Mae gan y cwmni gysylltiad â'r pentref ers dros ganrif.
Ar un adeg roedd gan y Co-op siop ddillad, siop gelfi, cigydd, siop sgidiau a siop fwyd ym Mhontarddulais.
Yr olaf i gau, yn 2011, oedd yr archfarchnad ar y stryd fawr.
'Hapus iawn'
Un sy'n "hapus iawn" bod y Co-op yn bendant am ddychwelyd i'r pentref yw'r Cynghorydd Philip Downing.
“Symo' i yn siŵr ai yr argyfwng costau byw neu cyfraddau llog yn codi oedd yn gyfrifol am yr oedi cyn yr agoriad," dywedodd.
"Gobeithio na fydd y gwaith o orffen gosod y silffoedd ac ati yn yr adeilad yn cymeryd yn rhy hir a bod diwrnod yr agoriad swyddogol ddim yn rhy bell i ffwrdd.”
Does dim cadarnhad eto faint o swyddi fydd yn cael eu creu, ond yn ôl y llefarydd y disgwyl yw y byddai tua 15 o bobl yn gweithio mewn siop o'r maint yna.
Pan gyhoeddwyd yn 2018 fod y Co-op yn dychwelyd i’r pentref roedd yna sôn y byddai'r buddsoddiad yn werth tua £650,000. Mae'n debyg fod y ffigwr yna wedi cynyddu erbyn hyn.