Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymddeol

Mae Roger Thomas wedi bod yn gweithio i'r gwasanaeth ers 29 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol wedi tair blynedd yn y rôl.
Cafodd Roger Thomas ei benodi'n Brif Swyddog Tân ym mis Ebrill 2022.
Yn ystod ei gyfnod fel arweinydd fe wynebodd y gwasanaeth feirniadaeth yn dilyn adolygiad diwylliannol a ddisgrifiodd y frigâd fel "clwb bechgyn".
Y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Iwan Cray, sydd wedi ei benodi yn brif swyddog dros dro tra bod y gwaith o ddewis olynydd parhaol yn mynd rhagddo.
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2022
Dechreuodd Roger Thomas weithio i'r gwasanaeth fel diffoddwr tân yn 1996, ac ers hynny wedi ymgymryd â sawl swydd wahanol.
Yn 2014 fe ymunodd â'r tîm arweinyddiaeth weithredol fel rheolwr ardal, daeth yn rheolwr brigâd yn 2017 ac yna yn Brif Swyddog Tân bum mlynedd yn ddiweddarach.
Dywedodd Mr Thomas mewn datganiad: "Anrhydedd pennaf fy mywyd oedd rhoi fy ngwasanaeth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Rwy'n hynod falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth fy nghydweithwyr a'n cymunedau."

Iwan Cray fydd y Prif Swyddog Tân dros dro tan fod olynydd parhaol i Mr Thomas wedi ei benodi
Dywedodd John Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod Mr Thomas yn "gadael gwasanaeth sy'n gryfach ac yn fwy ystwyth o'r herwydd, un sydd â chysylltiad dwfn â'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu".
Mae cyfrifoldebau Roger Thomas wedi eu trosglwyddo i'r Dirprwy Brif Swyddog Tân, Iwan Cray, a fydd yn cyflawni'r swydd dros dro.
Dywedodd Mr Cray fod derbyn y cyfrifoldeb yma yn "fraint" iddo.
"Er mai trefniant dros dro yw hwn, rwyf am roi sicrwydd i bawb y bydd parhad, sefydlogrwydd a chynnydd yn parhau i fod yn flaenoriaethau," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.