'Bwlio a gwahaniaethu' o fewn gwasanaeth tân - adolygiad
- Cyhoeddwyd
Mae un o frigadau tân Cymru wedi ei ddisgrifio fel "clwb bechgyn" mewn adolygiad diwylliannol.
Yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mercher, mae rhai aelodau o staff Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin yn meddwl bod pobl sy'n rhan o "glybiau triathlon a charafanau" yn datblygu ymhellach o fewn y llu.
Mae adroddiadau beirniadol wedi cael eu cyhoeddi i ddau wasanaeth yng Nghymru ddydd Mercher - y Canolbarth a'r Gorllewin, a'r Gogledd.
Yn ôl yr adroddiadau mae bwlio ac aflonyddu yn gyffredin yn y ddau wasanaeth.
Dywedodd yr ymchwiliadau fod y diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau gwella, ond nad oes "unrhyw gonsensws clir" a yw diwylliant yng ngwasanaeth y Canolbarth a'r Gorllewin wedi gwella ers 2021.
Mae prif swyddogion tân y ddau wasanaeth wedi ymddiheuro i aelodau staff sydd wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu.
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2024
Ym mis Mawrth y llynedd cyhoeddwyd byddai dau o wasanaethau tân Cymru yn wynebu adolygiadau annibynnol o ddiwylliant eu gweithle ar ôl honiadau o "fwlio, aflonyddu rhywiol a ffafriaeth".
Clywodd ymchwilwyr farn dros 350 o staff presennol a chyn-aelodau o staff gwasanaeth tân Gogledd Cymru a thros 400 yng ngwasanaeth tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei disgrifio fel, "'clwb bechgyn gweithredol', lle'r oedd cysylltiadau personol ag uwch arweinwyr yn meithrin ffafriaeth a nepotiaeth", meddai'r adroddiad.
Fe gafodd y "clwb bechgyn" hefyd ei ddisgrifio fel "clwb beicio a chlwb carafanau" yn yr adroddiad.
Yn ôl un ymateb dienw mae pobl sy'n rhan o'r clybiau penodol hyn "yn aml yn derbyn triniaeth ffafriol".
Dywedodd sylw arall fod yna "ddiwylliant cliquey o fewn y sefydliad".
Bwlio ac aflonyddu yn broblem 'eang'
Dywedodd 10% o aelodau staff benywaidd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol o fewn gwasanaeth y Canolbarth a'r Gorllewin.
Disgrifiwyd bwlio ac aflonyddu fel problem "eang" o fewn y ddau wasanaeth.
Yn y Canolbarth a'r Gorllewin roedd "bron i hanner y rhai wnaeth ymateb i'r arolwg yn adrodd am brofiadau personol ers Mehefin 2021, a dros hanner wedi bod yn dyst i ymddygiad o'r fath".
Yng Ngogledd Cymru, nododd 42% o ymatebwyr brofiadau personol o fwlio neu aflonyddu ers mis Mehefin 2021, a dywedodd bron i hanner - 49% - eu bod wedi bod yn dyst iddynt.
Dywedodd yr adroddiad bod gan ddiwylliant gwasanaeth tân Gogledd Cymru broblemau gyda gwahaniaethu – dywedodd 17% o'r bobl a ymatebodd i arolwg eu bod wedi profi gwahaniaethu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Dywedodd awduron yr adroddiad – Crest Advisory: "Gwahaniaethu ar sail rhywedd (oedd) y math mwyaf cyffredin, gan amlygu materion sydd wedi gwreiddio'n ddwfn mewn rhywiaeth" yn y Canolbarth a'r Gorllewin.
Yn ôl un aelod benywaidd o staff gwasanaeth tân Gogledd Cymru wnaeth gyfrannu at yr ymchwiliad ei bod yn "cael fy nhanseilio cryn dipyn o'r amser", sy'n "rhwystredig iawn".
"Fe fydda i'n eistedd mewn cyfarfodydd ac mae rhai'n dweud 'mae'n amlwg eich bod yn newydd i'r rôl' pan fydda i wedi bod yn y rôl ers blynyddoedd."
Dywedodd yr ymchwiliad fod diffyg amrywiaeth o fewn gwasanaeth y Canolbarth a'r Gorllewin - yn 2023-24 dim ond 19% o'r gweithlu oedd yn fenywod ac roedd 98% yn wyn.
Diwylliant 'ni a nhw'
Soniodd am "faterion hierarchaeth" ymhlith y gwasanaeth, rhwng staff gweithredol a chorfforaethol yn ogystal â rhyw a rheng.
Dywedodd fod hyn yn creu "drwgdybiaeth" a "diwylliant o ofn a chydymffurfiaeth".
Soniodd hefyd am feddylfryd o "ni a nhw".
Dywedodd yr ymchwiliadau fod y diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau gwella, a bod staff y ddwy frigâd yn falch o weithio fel diffoddwyr tân.
Mewn ymateb i'r adroddiad ymddiheurodd prif swyddog tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas, i unrhyw aelod o staff sydd wedi profi aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu.
"Mae'r adolygiad hwn bellach yn rhoi argymhellion clir i ni i lywio gwelliannau yn ein diwylliant a'n hamrywiaeth yn y dyfodol," meddai.
Dywedodd Dawn Docx, prif swyddog tân Gogledd Cymru, fod yr adolygiad yn "drobwynt i'r gwasanaeth".
"Rydw i eisiau dweud sori wrth y rhai sydd heb gael profiad da – mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gweithle," meddai.
Mewn ymateb fe ddywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ei bod yn disgwyl i gadeiryddion a phenaethiaid i weithredu "ar fyrder".
Ychwanegodd: "Byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn mynd ati ar unwaith i sefydlu sut orau i gyflawni a chynnal newid diwylliannol ar draws y Gwasanaeth Tân ac Achub."
'Syfrdanol'
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod lefel y bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn yr adroddiadau yn "syfrdanol".
Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod "rhaid cymryd camau i sicrhau bod yr unigolion sy'n gweithio yn ein gwasanaethau tân yn gallu darparu'r gwasanaeth hollbwysig maen nhw'n ei wneud mewn amgylchedd diogel, yn rhydd o'r ymddygiad gwenwynig yma".