Carcharu cyn-chwaraewr rygbi am dreisio dynes yng Nghaerdydd

Roedd Philip Pariyo rhan o dîm rygbi saith-bob-ochr Uganda yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi o Uganda wedi cael ei garcharu am bedair blynedd a hanner am dreisio dynes yng Nghaerdydd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Philip Pariyo, 32, wedi dod yn ffrindiau agos gyda'r ddynes cyn iddo ymosod arni yn ei chartref yn y brifddinas ym mis Mehefin 2021.
Roedd Pariyo - oedd yn geisiwr lloches - wedi gwadu ei threisio, ond cafwyd yn euog ym mis Rhagfyr y llynedd.
Bu'n cynrychioli ei wlad fel rhan o dîm rygbi saith-bob-ochr Uganda yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, cyn iddo ddiflannu.

Roedd Pariyo yn un o ddau o chwaraewyr Uganda wnaeth ddiflannu wedi'r gemau yn Glasgow
Fe ddaeth Pariyo i'r DU yn 2014 ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, ac roedd yn un o ddau chwaraewr wnaeth ddiflannu wedi'r gystadleuaeth.
Daeth i'r amlwg flwyddyn yn ddiweddarach ei fod wedi symud i Gaerdydd, ei fod wedi ceisio am loches yng Nghymru a'i fod wedi dechrau gweithio i adran casglu sbwriel y ddinas.
Dywedodd yr amddiffyniad ei fod wedi ceisio am loches ar y sail ei fod wedi ei gyhuddo o fod yn hoyw, ac roedd ganddo ofn dychwelyd i Uganda lle mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon.
Clywodd y llys fod Pariyo wedi cwrdd â'r ddynes am y tro cyntaf mewn angladd yng Nghaerdydd yn 2019, a bod y ddau wedi dod yn ffrindiau da.
Roedd Pariyo a'r ddynes yn byw gyda'i gilydd a dau o bobl eraill yn 2021 - gan gynnwys cariad Pariyo, oedd yn feichiog ar y pryd.
Ar noson yr ymosodiad, meddai'r barnwr Celia Hughes, roedd y ddynes wedi gwrthod cael rhyw gyda Pariyo ar sawl achlysur cyn iddo ymosod arni'n rhywiol.
Y bore wedyn, clywodd y llys fod y ddau wedi mynd i brynu pilsen atal cenhedlu.
'Mae'n teimlo fel clwyf agored'
Mewn datganiad, dywedodd y ddynes fod y digwyddiad wedi cael effaith hir dymor ar ei hiechyd meddwl a'i hiechyd corfforol.
"Ni ddylai neb orfod profi'r hyn ddigwyddodd i mi, ymladd ac erfyn am fy mywyd. Mae'n teimlo fel clwyf agored sydd yn gwrthod gwella," meddai.
"Dwi'n teimlo'n fudr ac yn ddideimlad... Dylai neb orfod ymladd dros rywbeth mor syml â chaniatâd."
Mewn llythyr ar y barnwr, dywedodd Pariyo ei fod "yn ymddiheuro o waelod calon i'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r hyn yr wyf i wedi ei wneud".
Wrth ddedfrydu, fe ddywedodd y barnwr fod yr ymosodiad yn "ofnadwy" a'i fod wedi "cymryd mantais o ddynes yr oedd yn ei hystyried yn ffrind".
"Dylai rhywun mor gryf â chi, oedd wedi chwarae ar lefel mor uchel yn eich camp, fod yn esiampl i eraill.
"Ond yn hytrach, fe wnaethoch chi drin y ddynes yma fel y mynnoch.
"Ni fydd hi fyth yr un ddynes gryf, hyderus yr oedd hi cyn iddi ddod i'ch gweld chi yng Nghaerdydd, a hynny oherwydd eich ymddygiad barus chi."
Ychwanegodd y byddai'r ddedfryd yn cael effaith niweidiol ar ei gais am loches.