Arestio pedwar ar ôl i gerddwr gael ei daro gan gar yn y gogledd

Bwlch yr OernantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod y cerddwr yn cerdded ar hyd Bwlch yr Oernant pan gafodd ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i gerddwr 21 oed gael ei anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gar.

Digwyddodd ym Mwlch yr Oernant ger Llangollen, ddydd Gwener am tua 23:00.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr ardal yn "arbennig o brysur" yn dilyn cyngerdd Olly Murs ym Mhafiliwn Llangollen gerllaw.

Mae'r dyn a gafodd ei anafu mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywedodd y Sarjant Daniel Rees, o'r Uned Troseddau Ffyrdd, fod yr heddlu'n "awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd ddigwyddiad yn ymwneud â cherddwr a Vauxhall Corsa coch".

Pynciau cysylltiedig