Y Seintiau Newydd yn rhannu record Cymreig ar ôl curo Llangollen 16-0

Adam WilsonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Adam Wilson hat-tric cyn yr egwyl

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd yn rhannu'r record am y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes Cwpan Cymru ar ôl trechu Llangollen 16-0.

Roedd y sgôr yn cyfateb i’r record flaenorol o 16 gôl, a gafodd ei osod yn gyntaf ym 1883-34 pan gurodd Davenham ail dîm Treffynnon o’r un maint.

Llwyddodd Caerdydd hefyd i guro Trefyclo 16-0 yn 1961 tra, yn fwyaf diweddar, trechodd Y Bala Brymbo 17-1 ym mis Medi 2021.

Roedd tîm Craig Harrison - sy'n chwarae nesaf yn erbyn Astana o Kazakhstan yng Nghyngres UEFA ddydd Iau - ar y blaen o 9-0 ar yr hanner.

Mae'r clwb o Groesoswallt yn anelu at gipio'r tlws am y 10fed troi fod yn gyfartal â record Clwb Pêl-droed Abertawe.

Cwpan Cymru yw'r drydedd gystadleuaeth bêl-droed hynaf yn y byd, yn dyddio'n ôl i 1877.

Pynciau cysylltiedig