Pryder am 'amddifadu' plant o ieithoedd modern wrth i niferoedd ostwng

Mae yna bryder ynghylch nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern fel pynciau Safon Uwch
- Cyhoeddwyd
Mae angen rhagor o fuddsoddiad a rhagor o hyfforddiant ar athrawon, i sicrhau nad yw nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern fel pynciau Safon Uwch yn dirywio ymhellach.
Dyna neges British Council Cymru, wrth i'w ffigyrau diweddaraf ddangos gostyngiad pellach yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor ar ôl cwblhau cwrs TGAU.
Mae Tom Davies-Lyons o'r cyngor yn poeni am ostyngiad pellach oni bai bod yna fwy o fuddsoddiad.
"Yn anffodus does dim llawer o athrawon sydd wedi cael eu hyfforddi o ran dysgu ieithoedd. So o ran yr ariannu, mwy o hyfforddiant iddyn nhw, ac ariannu mwy o ysgolion i roi'r dosbarthiadau ieithoedd ymlaen.
"Heb yr arian yna, mae'r sefyllfa mynd i waethygu."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y nifer sy'n astudio iaith dramor fodern fel pwnc TGAU wedi codi, a'u bod wedi buddsoddi i hybu defnydd o ieithoedd tramor.

Mae Tom Davies-Lyons o'r British Council Cymru yn dweud bod angen mwy o fuddsoddiad
Mae'r sefyllfa hefyd yn poeni Ceri Anwen James, sy'n ddirprwy bennaeth Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd, a sydd hefyd yn dysgu Almaeneg.
"Mae e'n dipyn o ofid mewn gwirionedd", meddai.
"Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi bod yn poeni athrawon ieithoedd modern ers blynyddoedd."
Straeon Perthnasol
Nifer sy'n astudio TGAU ieithoedd tramor yn parhau i ostwng
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
'Trychinebus' bod cyn lleied yn astudio ieithoedd tramor
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
Pryder bod llai yn dysgu ieithoedd rhyngwladol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Mae nifer y disgyblion sy'n astudio Ffrangeg fel pwnc Safon Uwch wedi gostwng 30% mewn blwyddyn.
Roedd 242 o ddisgyblion yn astudio'r pwnc llynedd. Eleni, dim ond 169 sy'n gwneud hynny.
Mae'r patrwm o ran Almaeneg hyd yn oed yn fwy pryderus.
Roedd 62 o ddisgyblion yn astudio'r pwnc yn 2024, ond 42 sydd yn gwneud hynny yn 2025.

Mae plant yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd yn ôl Ceri Anwen James
Mae British Council Cymru yn rhybuddio y gallai'r pwnc ddiflannu'n llwyr o'r cwricwlwm ymhen tair blynedd.
Yn ôl Ceri Anwen James, mae plant yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd.
"Mae 'na dalpau enfawr o Gymru bellach ble chi'n gallu byw a dydych chi ddim yn gallu dysgu Almaeneg mewn unrhyw ysgol gyfagos.
"Mae hynny'n golygu bod ein plant ni'n colli mas ar y cyfleoedd yna sydd ar gael yn Lloegr ac yn y blaen, ac mae'n plant ni i fod yn gallu cystadlu gyda'r farchnad swyddi ac ar y farchnad ryngwladol."
'Dysgu iaith yn rhywbeth prydferth a diddorol'
Mae yna gyfleoedd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn Ysgol Bro Edern.
Mae'r cyrsiau'n rhai poblogaidd, a'r disgyblion yn gweld budd mawr o'u dilyn.
Dywedodd Haydn, sy'n ddisgybl 17 oed ei fod yn credu bod ei "sgiliau cyfathrebu wir wedi elwa o ddysgu Almaeneg".
"Mae wedi bod yn allweddol i fy nyfodol i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg wrth ystyried mae nifer o brifysgolion eisiau i fyfyrwyr wybod dwy iaith", meddai Nel sydd hefyd yn 17 oed.
Yn ôl Steffan sy'n 16 oed, mae cael dysgu iaith wahanol a chael trydedd iaith y tu hwnt i Saesneg a Chymraeg yn "fuddiol iawn".
Dywedodd Ruby sy'n 16 oed ei bod yn teimlo bod "dysgu iaith yn rhywbeth hynod o brydferth, a diddorol, ac er bod e'n waith caled mae'n rhywbeth gwerthfawr i gael".

Mae Mared Gwyn sy'n byw ym Mrwsel yn "bryderus bod y niferoedd yn disgyn"
Ond er gwaetha poblogrwydd y cyrsiau yn Ysgol Bro Edern, mae ffigyrau British Council Cymru yn dangos bod y niferoedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn gyson ers 11 mlynedd.
Mae hynny'n poeni Mared Gwyn, sy'n byw ym Mrwsel ac yn gweithio fel newyddiadurwr i Euronews, sianel sy'n darlledu mewn 13 o ieithoedd.
"Dwi'n meddwl bod o'n bryderus bod y niferoedd yn disgyn.
"'Da ni isio parhau i fod yn genedl agored sy'n gallu creu pontydd a chysylltiadau gyda diwylliannau newydd, ac mae'r ffaith bod pobl ifanc yn dysgu ieithoedd ac yn mynd i'r gwledydd yma i astudio, i weithio, i gael y profiad yn rhywbeth sydd yn ein cyfoethogi ni hefyd fel cenedl."
Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor fodern fel pwnc TGAU wedi codi am yr ail flwyddyn yn olynol, a bod hynny'n galanogol.
Mae nhw hefyd yn nodi bod £1.6m ychwanegol wedi ei fuddsoddi i hybu'r defnydd o ieithoedd tramor modern.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.