Nifer sy'n astudio TGAU ieithoedd tramor yn parhau i ostwng
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer sy'n astudio Ffrangeg TGAU wedi mwy na haneru mewn bron i ddegawd, gydag ieithoedd modern eraill fel Sbaeneg ac Almaeneg hefyd wedi gweld niferoedd yn disgyn yn sylweddol ers 2015.
Mae'r nifer sy'n astudio Safon Uwch, neu Lefel A, yn dilyn yr un patrwm.
Yn ôl un athrawes mae Brexit a Covid wedi chwarae rhan ac mae'n her hefyd recriwtio athrawon newydd, yn ôl rhai ym myd addysg.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gan ddisgyblion hawl i ddysgu un iaith ryngwladol a'u bod yn cynnig cymhellion i ddenu athrawon i'r proffesiwn.
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Fel sawl ysgol erbyn hyn, un iaith dramor sy'n cael ei chynnig yn ysgol Llangynwyd, a Sbaeneg yw'r iaith honno.
Dywedodd Angharad David, pennaeth Sbaeneg Ysgol Llangynwyd: "Maen nhw'n meddwl, gyda'u hannibyniaeth nhw yn ystod Covid a gyda thechnoleg a phethe felly, mae'r plant ddim yn gweld y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i deithio a mynd tu hwnt i ble maen nhw'n byw.
"Mae Brexit efallai wedi cael effaith fan'na.
"Y ffaith bod ni ddim yn yr Undeb Ewropeaidd rhagor, efallai mae plant yn ei gweld hi'n ddibwynt i astudio iaith.
"Bydden i'n bendant yn gofyn i brifysgolion ac unrhyw asiantaethau fel Taith - mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ar hyn o bryd - eich bod chi'n codi statws y cyfleoedd sydd ar gael i blant."
Mae'r nifer sy'n astudio Ffrangeg TGAU wedi mwy na haneru mewn bron i ddegawd o 4,810 i 2,216 rhwng 2015 a 2024.
Mae'r nifer sy'n astudio Sbaeneg TGAU wedi gostwng yn sylweddol hefyd yn yr un cyfnod, o 1,831 i 1,359.
Mae'r niferoedd sy'n astudio Almaeneg hefyd wedi disgyn o 1,007 i 468 ar gyfer cofrestriadau TGAU.
Dim ond hyd at TGAU mae modd astudio Sbaeneg yn Ysgol Llangynwyd, wrth iddi wneud cynnydd graddol eleni gydag 20 disgybl yn y dosbarth.
Dywedodd un o'r disgyblion hynny, Meilon ei fod "eisiau dysgu Sbaeneg ac mae'n sgil defnyddiol iawn i gael yn y byd gwaith, ac yn yr ysgol hefyd, fel yn y brifysgol.
"Siarad Cymraeg, mae'n llawer mwy hawdd i ddysgu Sbaeneg oherwydd mae pobl sy'n siarad Saesneg jest ddim gyda'r profiad o ddweud y synau hyn mewn iaith."
'Ieithoedd yn allweddol'
Mae angen newid meddylfryd yma ym Mhrydain yw neges un o Flaenau Ffestiniog sydd wedi dilyn gyrfa dros y byd.
Mae Elin Roberts bellach yn gweithio ar y cyfandir ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.
"Dy'n ni'n meddwl fod ieithoedd yn wastraff o amser," meddai.
"Mae'r meddylfryd yn Ffrainc yn wahanol. Maen nhw yn pwsho y pynciau STEM ond maen nhw hefyd yn gwthio'r pynciau ieithoedd hefyd.
"Os ydych chi'n edrych ar yr ysgolion peirianneg yn Ffrainc, mae pobl yn dod allan efo peirianneg ond mae hefyd maen nhw'n rhugl yn o leiaf Ffrangeg a Sbaeneg neu iaith arall.
"Felly dwi'n meddwl 'da ni angen newid y ffordd 'da ni'n meddwl, bod ieithoedd yn allweddol."
Mae ei rhuglder mewn Ffrangeg wedi cynnig cyfleoedd bythgofiadwy tra'n fyfyriwr prifysgol ym Mharis.
"Dwi'n cofio pan o'n i yn y brifysgol es i'r L'Institut du monde arabe 'ma a wnes i weld François Hollande (cyn-arlywydd Ffrainc).
"Wnes i fyny ato fo i ddweud 'helo, sut 'da chi? Dwi hefyd yn fyfyriwr, be' ydych chi'n feddwl o'r sefyllfa wleidyddol ar hyn o bryd?'
"Dyma fo'n dweud 'tyd i eistedd lawr i gael brecwast efo fi, awn ni i'r caffi yn yr amgueddfa 'ma'.
"Oedd o'n anhygoel, ac roedd y sgwrs yna i gyd mewn Ffrangeg, a'r peth ydy, 'swn i byth wedi cael y profiad yna mewn ffordd.
"Felly dwi'n meddwl fod y ffaith 'da ni'n gallu siarad gwahanol ieithoedd yn dod â'r barriers 'ma i gyd i lawr yn rili sydyn."
Yn ôl Glesni Owen, sy'n gweithio ym maes addysg ac ieithoedd i MFL Mentora a Llwybrau at Ieithoedd Cymru, mae denu rhai i fyd addysg yn her.
"Yn anffodus dim ond 12 o fyfyrwyr oedd yn astudio i fod yn athrawon ieithoedd rhyngwladol flwyddyn ddiwethaf, felly mae'r niferoedd yn isel ar y funud," meddai.
"Allan o'r 12 yna dwi'n meddwl mai dim ond un oedd yn siarad Cymraeg, felly mae yna broblem yn anffodus gyda recriwtio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod gostyngiad wedi bod".
"Fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, mae pob dysgwr yn cael cyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol ac i ddefnyddio ieithoedd y cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y gallant eu siarad.
"Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at ddatblygu dysgwyr y dyfodol.
"Rydyn ni hefyd yn cynnig cymhellion amrywiol i ddenu mwy o athrawon ieithoedd tramor modern i'r proffesiwn."