Coffáu nyrs o Fôn a fu farw'n sydyn wrth baratoi at ei briodas

Robyn Parry gyda'i ddyweddi Bryony
- Cyhoeddwyd
Mae ffrindiau nyrs a fu farw wrth iddo baratoi ar gyfer ei briodas wedi cwblhau taith gerdded 130 milltir o gwmpas Ynys Môn ac wedi codi miloedd o bunnoedd i elusen.
Ers cael ei eni roedd Robyn Parry wedi byw gyda'r cyflwr Anemia Diamond Blackfan - cyflwr gwaed prin sydd ond yn effeithio ar oddeutu 350 o bobl ar draws y DU.
Roedd yn derbyn triniaeth reolaidd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Yn ystod y cyfnod pan oedd yn anfon gwahoddiadau i'w briodas i'w ddyweddi a'i gyd-nyrs, Bryony, fe waethygodd iechyd Robyn, 36, a bu farw'n frawychus o sydyn ym mis Mawrth eleni.
Mae dau a oedd fod yn weision priodas, Ben Brame a Glyn Owen, newydd gwblhau taith naw diwrnod er cof amdano a hynny yn ystod yr wythnos yr oedd y ddau fod i briodi.

Glyn Owen: "Rydan ni eisiau troi rhywbeth eithaf trist a negyddol yn rhywbeth cadarnhaol os allwn ni"
Wedi ei fagu yn Y Fali ar Ynys Môn, penderfynodd Robyn gychwyn gweithio fel nyrs er mwyn dangos ei werthfawrogiad o'r gofal a dderbyniodd ers yn ifanc.
Bu'n gweithio yn ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd ac yn y gwaith y gwnaeth gwrdd â'i ddyweddi, Bryony. Roeddent fod i briodi ar 21 Awst.
Ond ar ôl i'w iechyd waethygu, bu farw Robyn yn sydyn ar 17 Mawrth.
Dywedodd Glyn bod Robyn yn "berson anhygoel", a'i fod yn teimlo bod angen nodi cyfnod ei briodas.
"Dylai'r wythnos hon fod wedi bod yn amser i deulu a ffrindiau ddod at ei gilydd," meddai Glyn, gan ychwanegu bod teulu Robyn wedi bod yn "gefnogol iawn" i'w hymdrechion.
"Drwy godi arian at elusen rydan ni eisiau troi rhywbeth eithaf trist a negyddol yn rhywbeth cadarnhaol os allwn ni," meddai.
Cerdded llwybr arfordir Ynys Môn er cof am nyrs ifanc
Roedd Robyn wedi byw gyda chyflwr gwaed prin o'r enw Anemia Diamond Blackfan (DBA) a oedd yn golygu nad oedd ei gorff yn gallu cynhyrchu digon o gelloedd gwaed coch, ac o ganlyniad roedd o angen trallwysiadau gwaed rheolaidd.
"Bob mis roedd yn rhaid iddo fynd i'r ysbyty i gael transfusions gwaed, ac wrth iddo fynd yn hŷn roedd yn rhaid iddo fynd bob tair wythnos," meddai Glyn, sy'n gweithio gyda'r Groes Goch yng Nghaerdydd.
"Roedd pawb yn edrych ymlaen at ei briodas, roedden ni wedi cwrdd yn Llandudno ychydig llai na blwyddyn yn ôl pan ofynnodd i mi a Ben fod yn wŷr priodas iddo.
"Roedd o a Bryony yn edrych ymlaen gymaint at y briodas.
"Roedden nhw wedi gwneud llawer o'r gwaith cynllunio ac roeddan ni'n paratoi ar gyfer y stag pan ges i alwad gan Ben.
"Roeddwn i'n meddwl ei fod eisiau trafod y parti stag, ond i glywed y newyddion yna.... roedd o'n ofnadwy i bawb."

Roedd rhai o gydweithwyr Robyn wedi gwisgo crysau-t arbennig ar y daith
Er mai pwrpas y daith gerdded oedd codi arian i Diamond Blackfan Anaemia Support Group UK, mae ei ffrindiau hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o gyflwr Robyn.
"Roedd Robyn bob amser yn anturus iawn," ychwanegodd Glyn.
"Mae cael cyflwr iechyd difrifol fel'na yn rhoi golwg wahanol i chi ar fywyd.. roedd bob amser yn awyddus iawn i fyw bywyd i'r eitha.
"Roedd yn berson meddylgar iawn, sy'n cael ei ddangos yn y gwaith roedd yn ei wneud fel nyrs... roedd o'n teimlo bod hi'n bwysig iawn rhoi rhywbeth yn ôl ac mae hynny'n dangos ei gymeriad."

Dywedodd Catrin Elin fod cymryd rhan wedi bod yn hwyl ond bod y staff yr ysbyty hefyd yn awyddus i gofio am Robyn
Ond gan chwerthin, dywedodd Glyn hefyd y byddai Robyn "wedi meddwl eu bod nhw'n wirion" am gyflawni her o'r fath.
"Doedd Rob ddim yn hoff iawn o gerdded!
"Ond mae'n fwy am dod â phobl at ei gilydd i'w gofio, ac ailymweld â'r llefydd lle mae ganddon ni atgofion arbennig ohono."
'Cael rhywbeth da allan o wythnos anodd'
Fe gafodd Glyn a Ben gwmni am ran o'r daith - yn eu plith rhai o gydweithwyr Robyn.
Un a fu'n cerdded oedd y nyrs Catrin Elin, oedd wedi gweithio gyda Robyn ar Ward Enfys yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Roedd yn hogyn hwylus, wastad gwên mawr ar ei wyneb, roedd pawb wrth eu bodd hefo Robyn", meddai, gan ychwanegu ei fod yn "bleser ei adnabod ac i weithio gydag o".
"Dros y blynyddoedd roedd Robyn wedi derbyn gofal mor dda tuag at ei gyflwr roedd o jyst eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.
"Ac oedd hynny'n dangos yn ei waith, roedd o mor garedig at ei gleifion ac ni fel gweithwyr... calon mawr.
"Oedd o'n berson mor hyfryd wir, roedd ei farwolaeth yn newyddion ofnadwy o drist a wnaeth o hitio ni i gyd yn arw."

"Fasa rhywun yn dweud wrthat ti pa mor glên oedd Rob, oedd o jyst yn grêt o foi," meddai Ben Brame
Mae'r ffaith bod cymaint o bobl wedi dod i gefnogi, "yn crynhoi Rob" yn ôl Ben, a oedd wedi ei adnabod ers yn 17 oed.
Ychwanegodd bod dyddiad penodol y daith wedi ei ddewis i sicrhau bod "rhywbeth da yn dod allan o wythnos anodd".
"Fasa rhywun yn dweud wrthat ti pa mor glên oedd Rob, oedd o jyst yn grêt o foi," meddai Ben, sy'n byw yn Y Felinheli.
"Wnaeth y cyflwr ddim ei stopio, wnaeth o fyw y ffordd oedd o eisiau byw.
"Oedd o'n gwybod bod ganddo lai o amser dwi'n siwr, ond wnaeth o ddim ei stopio fo.
"Mae'r teulu wedi bod yn wych, wnaethon nhw ymuno hefo ni ar y diwrnod cyntaf ac mae wedi bod yn gyfle i hel atgofion a codi chydig bach o bres.
"Dwi'n siwr bydda fo wedi dychryn o weld gymaint o bobl... yn sicr, gymaint o gefnogaeth a gymaint o eiriau caredig.
"Mae wedi bod yn anhygoel."