Ruth Jones yn ennill BAFTA am ddiweddglo Gavin & Stacey

- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes Ruth Jones wedi ennill gwobr BAFTA am ei pherfformiad ym mhennod olaf y gyfres boblogaidd Gavin & Stacey.
Ms Jones oedd enillydd y wobr 'perfformiad comedi gorau gan fenyw'.
Roedd diweddglo'r gyfres, a gafodd ei ddarlledu dros y Nadolig, yn nodi diwedd cyfnod i'r gyfres boblogaidd a oedd wedi ei lleoli yn Y Barri.
Wrth dderbyn ei gwobr, fe wnaeth Ruth Jones bortreadu ei chymeriad Nessa, gan ddweud mewn acen Gymreig: "I'm not gonna lie, this is immense".
Fe ddiolchodd i'w chyd-actor, James Corden, cyn dod â'i haraith o ddiolch i ben.
Roedd y gyfres Mr Bates vs the Post Office ymysg rhai o brif enillwyr y noson, wrth i'r seremoni gael ei chynnal yn y Royal Festival Hall yn Llundain nos Sul.