'Annheg' na fydd cefnogwyr Caernarfon yn Warsaw

Caernarfon TownFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd sancsiynau yn erbyn Legia Warsaw, ni fydd cefnogwyr Caernarfon yn cael gwylio'r gêm yn y stadiwm 'chwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon yn credu bod hi’n annheg na fydd eu cefnogwyr yn cael bod yn bresennol i wylio’r gêm oddi cartref yn erbyn Legia Warsaw yng Nghyngres Uefa.

Ar ôl trechu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn y rownd gyntaf, bydd Y Canaries yn chwarae Legia yng nghymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol ym mhrifddinas Gwlad Pwyl ddydd Iau.

Ond fe fydd y gêm yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig ar ôl i Legia gael eu sancsiynu gan Uefa am i’w cefnogwr arddangos baner “brofoclyd” gyda “natur sarhaus” mewn gêm yn erbyn Molde fis Chwefror.

Ni fydd cefnogwr Legia yn cael mynychu’r ail gymal yng Nghymru chwaith, ar ôl cael eu gwahardd o bum gem oddi cartref mewn cystadlaethau Ewrop yn dilyn gwrthdaro cyn gêm yn erbyn Aston Villa fis Tachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheolwr Richard Davies yn dweud bod atgofion o'r cefnogwyr yn Belfast yn rhywbeth y bydd yn "trysori am byth"

"Dyna’r peth mwyaf siomedig i bawb yn y clwb,” meddai'r rheolwr Richard Davies wrth BBC Cymru.

“Gafo' ni brofiad mor wych allan yn Belfast ac roedd y cefnogwyr yn rhyfeddol.

“Roedd y golygfeydd ar y diwedd yn rhywbeth 'nawn ni drysori am byth.

“Dwi’n meddwl ei bod hi'n annheg bod y cefnogwyr oddi cartref yn cael eu cosbi am rywbeth y mae rhywun arall wedi’i wneud.”

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Caernarfon drechu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Uefa

Cafodd Caernarfon gefnogaeth 400 o gefnogwyr ar gyfer y daith rownd ragbrofol gyntaf i Ogledd Iwerddon i wynebu Crusaders.

Dyna oedd taith Ewropeaidd gyntaf Caernarfon, a bellach mae’r clwb o ogledd Cymru yn wynebu prawf anferth yn erbyn clwb sydd wedi bod yn bencampwyr prif gynghrair Gwlad Pwyl 15 o weithiau.

“’Da ni'n gwybod bod 'na dasg enfawr o’n blaenau ni,” meddai Davies.

Ffynhonnell y llun, CBDC/SAM EADEN
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd y tîm yn cael amser i ymarfer cyn y gêm nos Iau

Carfan lled-broffesiynol sydd gan Gaernarfon, ac yn ôl Davies, chawn nhw ddim amser i hyfforddi cyn y cymal cyntaf ddydd Iau.

“Ar ôl cael mân anafiadau, mae angen amser ar yr hogiau i wella felly bydd y rhan fwyaf o'n paratoadau yn cael eu gwneud drwy gyflwyniadau a dadansoddiadau a dangos clipiau i'r chwaraewyr,” ychwanegodd Davies.

“Gan ein bod ni'n rhan-amser, does ganddyn ni ddim ice baths a phethau felly.

“Mae hynny'n her ynddo’i hun, ond mae’n rhaid i ni geisio gwneud y gorau y gallwn a mynd gyda hynny.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Canaries yn chwarae mewn stadiwm gwag yng Ngwlad Pwyl nos Iau

Cafodd paratoadau Caernarfon ar gyfer y cymal cyntaf yng Ngwlad Pwyl eu cymhlethu ymhellach gan y problemau technoleg fyd-eang ddydd Gwener.

“Mae wedi bod yn dipyn o hunllef i fod yn onest,” meddai Davies.

“Chafon ni ddim cadarnhad tan ddiwedd prynhawn dydd Gwener os oedden ni'n mynd i fod yn chwarae dydd Iau neu ddydd Mercher, a daeth y problemau technoleg ddydd Gwener felly doedd hi ddim yn bosib bwcio fel grŵp dros y penwythnos.

“O ran logistics, mae wedi bod yn dipyn o hunllef, ond gobeithio bo' ni wedi sortio rhywbeth."

Pynciau cysylltiedig