Dau yn euog o fod mewn grŵp a fewnforiodd gwerth £11m o ganabis

Cafwyd Sean Montgomery (chwith) a Steven Munroe yn euog o gynllwynio i fewnforio a chyflenwi cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o fod yn rhan o grŵp troseddol wnaeth fewnforio mwy na 300kg o ganabis o'r UDA i'r DU yn defnyddio'r gwasanaeth post.
Cafodd Sean Montgomery, 24, a Steven Munroe, 44, y ddau o Gaerdydd, eu cyhuddo o gynllwynio i fewnforio a chyflenwi cyffuriau dosbarth B.
Mewn gwrandawiad blaenorol fe wnaeth Mohammed Hussain, 28, ac Abdu Hussain, 28, y ddau hefyd o Gaerdydd newid eu ple a chyfaddef mewnforio'r cyffuriau - roeddynt eisoes wedi cyfaddef eu cyflenwi.
Roedd saith o bobl eraill eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau sy'n gysylltiedig â'r achos.
Clywodd y rheithgor fod y cyffuriau a gafodd eu canfod gan yr heddlu werth hyd at £11m a bod hyn yn enghraifft o "werthu cyffuriau ar raddfa ddiwydiannol".

Cafodd Abubakr Khawar ei ddisgrifio fel pennaeth y grŵp troseddol
Cafodd fideos eu dangos i'r rheithgor o'r tŷ ar Ffordd Parc Ninian yng Nghaerdydd lle roedd y cyffuriau yn cael eu storio.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y fideos wedi dod o ffôn Abubakr Khawar - ac mai ef oedd pennaeth y grŵp troseddol dan sylw.
Fe wnaeth y canabis gyrraedd y DU drwy feysydd awyr amrywiol gan gynnwys Birmingham, Heathrow a Stanstead ar ôl cael eu postio, yn bennaf o California a New Jersey.
Roedd y cyffuriau yn cael eu cadw mewn pecynnau lliwgar wedi eu labelu.
Cyffuriau wedi eu labelu fel canhwyllau
Cafodd negeseuon rhwng Abubakr Khawar a pherson oedd yn cael eu hadnabod fel "Adam Z" eu darllen yn y llys, dyma'r ddau brif ffigwr yn y grŵp troseddol, yn ôl y Ditectif Gwnstabl Sean Meyrick
Roedd y ddau yn trafod eu pryderon ar ôl i barseli oedd ar eu ffordd i leoliad yn Y Barri gael eu stopio yn un o ganolfannau'r Post Brenhinol yn y dref - ac y gallai hynny arwain at golled o £60,000.

Roedd Sean Montgomery wedi ceisio casglu pecynnau o ganolfan ddosbarthu yn Y Barri
Clywodd y llys fod rhai o'r parseli gafodd eu darganfod wedi eu labelu fel 'Yankee Candles'.
Cafodd Montgomery ei gyhuddo o geisio casglu tri pharsel o swyddfa'r Post Brenhinol yn Y Barri, ond cafodd ei wrthod gan "nad oedd y cyfeiriad yn bodoli".
Cafodd yr heddlu eu galw gan fod pecynnau tebyg wedi cyrraedd o'r UDA a'u bod yn cael eu hystyried yn rhai "amheus".

O'r chwith i'r dde; Abdu Husain, Mohammed Hussain, Andrew Pethers a Ceiron Jones
Roedd Steven Munroe wedi ei gyhuddo o gytuno i gael pum pecyn canabis wedi eu hanfon i'w gartref yng Nghaerdydd.
Roedd Munroe yn dadlau ei fod wedi cytuno i dderbyn un pecyn ar ran ei gymydog, Sophie Jones ond nad oedd ganddo syniad beth oedd yn y parsel.
Ond honnodd yr erlyniad ei fod yn "ymwybodol o'r gweithgaredd ehangach a'r ymdrech i fewnforio parseli o'r UDA".
Cafodd Mohammed Hussain ei arestio yn ei gartref ble wnaeth swyddogion ddarganfod canabis, ffon ac arian yn ogystal â phecynnau canabis gwag.
Fe wnaeth yr heddlu ganfod cyfanswm o 329kg o gyffuriau yn ymwneud a'r achos - sydd â gwerth ar y stryd o rhwng £7m ac £11m.

O'r chwith i'r dde; Daniel Marshall, Sophie Jones, Solomon Bertram a Kyle Solowyk
Roedd saith o ddiffynyddion eisoes wedi cyfaddef cynllwynio i fewnforio cyffur dosbarth B, cynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth B a bod â chyffur dosbarth B gyda'r bwriad o'i werthu.
Fe fydd Abubakr Khawar, 28 o Gaerdydd, Daniel Marshall, 40 o Ferthyr Tudful, Andrew Pethers, 36 o Gaerdydd, Sophie Jones, 32 o Gaerdydd, Kyle Solowyk, 29 o'r Barri, Ceiron Jones, 28 o Gaerdydd a Solomon Bertram, 36 o Gaerdydd wedi pledio'n euog mewn gwrandawiadau blaenorol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.