Oasis a'u cysylltiadau Cymreig

Murlun o'r brodyr Gallagher ym Manceinion - fe fydd y ddau yn perfformio gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers i Oasis chwalu 2009, gan ddechrau yng Nghymru ar 4 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Wrth i Oasis baratoi i agor eu taith hir-ddigwyliedig yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf, bydd sylw'r byd cerddoriaeth ar wlad y gân.
Ond mae 'na gysylltiadau cryf rhwng y band o Fanceinion a Chymru sy'n mynd yn ôl i'w dyddiau cynnar.
Y rheolwr ers 1993
Mae Cymru yn cael ei chysylltu gyda rygbi a cherddoriaeth, ac mae Marcus Russell wedi gwneud ei farc yn y ddau faes. Fo oedd cadeirydd clwb rygbi Glynebwy wrth i'r gêm droi'n broffesiynol - a hynny tra'r oedd o'n rheoli un o fandiau mwya'r byd.
Un o'r Cymoedd ydi Marcus Russell a dechreuodd drefnu gigs pan oedd o yn ei arddegau yn yr 1970au. Gweithiodd yn y ffwrneisi dur ac fel athro yn ardal Llundain cyn mynd i'r diwydiant cerddoriaeth ar ôl rheoli band llwyddiannus ei ffrind o'r Cymoedd, Latin Quarter.
Fis Mehefin 1993, ar ôl clywed am fand newydd addawol, aeth i'w gweld nhw mewn tafarn ar gampws Prifysgol Machester. Roedd o'n hoffi'r band - Oasis - ond doedd o ddim yn meddwl y byddai nhw'n sêr ac aeth yn ôl i Lundain.

Marcus Russell mewn cyfweliad yn Knebworth yn 1996, lle wnaeth 250,000 wylio Oasis dros gyfnod o ddeuddydd. Cyn Oasis, roedd Marcus Russell yn rheoli Johnny Marr a Bernard Sumner
Drannoeth fe gafodd alwad gan Noel Gallagher, oedd wedi clywed ei fod yn y gig ac yn dweud y gallai ddal trên i'w gyfarfod o fewn dwyawr.
Dyna ddigwyddodd, a daeth y Cymro yn rheolwr ar y band.
O fewn blwyddyn roedd Oasis yn Glasbonbury ac yn rhyddhau eu halbwm cyntaf Definitely Maybe (sydd â chysylltiad Cymreig - gweler isod) ac ar eu ffordd i fod yn un o fandiau mwya'r byd.
Yng nghanol hyn i gyd roedd Marcus Russell yn gadeirydd ac yn rhannol berchen ar glwb rygbi Glynebwy yn ystod hanes mwyaf cythryblus rygbi Cymru wrth i'r gêm droi'n broffesiynol.
Pan wnaeth Oasis chwalu yn 2009, fe wnaeth y Cymro barhau i reoli Noel Gallagher a'i fand High Flying Birds - a'i gwmni fo sydd yn rheoli'r band nawr eu bod wedi ail-ffurfio.
Y Cymro ar y clawr eiconig
Mae 'na rai lleoliadau sy'n denu ffans pop gan eu bod mewn llun eiconig, er enghraifft croesfan Abbey Road, Salford Lads' and Girls' Club a 23 Heddon Street.
Un arall ydi Berwick Street, Llundain, sy'n denu pobl yno gan mai dyma leoliad clawr ail albwm Oasis (What's the Story) Morning Glory?

Berwick Street, Llundain, sydd bellach yn adnabyddus i ffans Oasis
Ond os edrychwch chi'n ofalus ar ochr chwith y llun clawr, fe welwch chi ddyn yn sefyll ar y pafin yn dal bocs o flaen ei wyneb.
Tâp meistr yr albwm ydi hwn a'r Cymro Owen Morris sy'n dal y bocs. Ond mae ei rôl yn hanes y band yn gymaint mwy na dal bocs mewn llun clawr. Fo wnaeth gynhyrchu'r albwm, ac mae rhai'n dweud mai fo wnaeth achub eu halbwm cyntaf, a arweiniodd at lwyddiant ysgubol y band.

Llun clawr (What's the Story) Morning Glory? yn ffenest siop recordiau ar y stryd lle gafodd y llun ei dynnu. Mae Cymru Fyw wedi amlygu Owen Morris
Mae stori creu'r albwm honno - Definitely Maybe - yn chwedlonol erbyn hyn.
Cafodd sawl cynnig ei roi ar recordio caneuon (mewn stiwdio yng Nghymru... gweler isod) a chymysgu'r traciau, gan newid y tîm er mwyn ceisio ail-greu sŵn byw'r band. Doedd neb yn llwyddo ac roedd arian yn dechrau rhedeg allan.
Roedd Owen Morris, o Glyncorrwg, ger Port Talbot, wedi dechrau ar ei yrfa fel peiriannydd sain yng Nghaergrawnt pan oedd o'n 16 oed. Roedd o hefyd wedi gweithio gyda Marcus Russell a rhai o'r artistiaid roedd o'n eu rheoli. Felly fe gafodd o'r gwaith o geisio achub y caneuon.
Drwy ail-gymysgu, ail-recordio a defnyddio technegau gwahanol fe lwyddodd i greu'r 'sŵn mawr' sy'n cael ei gysylltu gydag Oasis. Roedd y band a'r label wrth eu boddau ac aeth Definitely Maybe ymlaen i werthu 15 miliwn copi.
Aeth Owen Morris, sydd bellach yn byw yn Costa Rica, yn ei flaen i weithio gyda bandiau byd-enwog eraill fel The Verve, The Fratellis ac Ash.
Fe wnaeth o hefyd gael y gwaith o gynhyrchu dau albwm nesaf Oasis, (What's the Story) Morning Glory? a Be Here Now… ac mae 'na gysylltiad arall Cymreig gydag albyms Oasis hefyd.
Recordio clasuron yn Sir Fynwy
Fe wnaeth Oasis recordio mewn dau stiwdio yn Sir Fynwy yn ystod creu eu dau albwm cyntaf - y ddau sydd wedi gwerthu fwyaf.
Ar ôl arwyddo yn 1993 i Creation Records (cwmni'r Albanwr Alan McGee, wnaeth symud i Gymru 15 mlynedd yn ôl) fe gafodd caneuon ar gyfer eu halbwm cyntaf eu recordio yn stiwdio Monnow, Sir Fynwy.
Fe gafodd nifer fawr o'r traciau wnaeth ymddangos ar Definitely Maybe eu hail recordio mewn stiwdio yng Nghernyw a'u hail-gymysgu gan Owen Morris (gweler uchod).
Ar gyfer eu hail-albwm, (What's the Story) Morning Glory? roedd Oasis yn ôl yn Sir Fynwy yn stiwdio eiconig Rockfield, sydd wedi ei defnyddio gan fandiau fel The Stone Roses, Queen a Coldplay.

Stiwdio Rockfield
Yma gafodd un o ganeuon mwyaf poblogaidd Oasis ei greu pan wnaeth Noel Gallagher sgwennu Wonderwall wrth eistedd ar wal tu allan i'r stiwdio.
Mae digon o straeon difyr am anturiaethau'r brodyr Gallagher yn yr ardal - gan gynnwys yr un lle wnaeth Liam ddod â chriw yn ôl i'r stiwdio ar ôl iddo fod allan yn nhafarndai Trefynwy.
Doedd Noel, oedd yn dal yn gweithio ar yr ail albwm, ddim rhy hapus efo'i frawd, aeth hi'n flêr - a daeth y band i ben. Rhoddwyd gorau i'r recordio am bythefnos, cyn i'r ddau ddod yn ôl, cymodi a gorffen yr albwm ddaeth yn un o'r rhai sydd wedi gwerthu orau erioed.
Yr aelodau Cymreig

Andy Bell, ail o'r dde, gydag Oasis yn Hong Kong yn 2006
Er mai grŵp o Fanceinion ydi Oasis, roedd Cymro yn aelod am ddegawd.
Pan wnaeth basydd gwreiddiol y band Paul McGuigan adael y band yn 1999, Andrew Piran Bell wnaeth gamu i mewn. Roedd o'n aelod o'r grŵp Ride, oedd ar yr un label recordiau ag Oasis, ac felly'n adnabod y brodyr Gallagher. Fe adawodd y band pan ddaeth i ben ddegawd yn ddiweddarach yn 2009.
Fe gafodd Andy Bell ei eni yng Nghaerdydd yn 1970, ond symudodd ei deulu i Rydychen pan oedd yn ifanc.

Carwyn Ellis
Ac mae 'na gerddor arall sydd wedi chwarae gyda Oasis, sy'n rhan o'r sin roc Cymraeg ers blynyddoedd.
Mae Carwyn Ellis yn adnabyddus yng Nghymru am ei waith gyda Rio 18, Colorama a Bendith. Mae o hefyd wedi chwarae gyda nifer fawr o gerddorion byd-enwog fel Shane MacGowan, Edwyn Collins, UNKLE, Saint Etienne a The Pretenders.
Fe wnaeth Carwyn, a gafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu ar Ynys Môn, ddod i adnabod Oasis wedi i Noel Gallagher ei weld o'n chwarae gyda'r North Mississippi Allstars.
Ac am dair wythnos bu'n teithio gyda'r band wrth iddyn nhw hyrwyddo eu sengl Songbird, gafodd ei ryddhau yn 2003.
Rhys Ifans a'r Gallaghers

Rhys Ifans
Roedd Rhys Ifans wedi bod yn ffrindiau gyda'r brodyr Gallagher ers sbel cyn iddo serennu yn fideo eu cân The Importance of Being Idle, dolen allanol yn 2005.
Mae'r actor yn chwarae rhan ymgymerwr angladdau ac yn meimio'r rhan fwyaf o'r gân, sy'n cael ei chanu gan Noel Gallagher.
Fe wnaeth band Rhys Ifans, Y Peth gefnogi Oasis yn Stadiwm y Mileniwm yn 2009. Dyma'r y tro diwethaf i'r brodyr Gallagher chwarae yng Nghaerdydd oherwydd fe chwalodd y band yn fuan wedyn.
Callum ac Anais

Callum Scott Howells ac Anais Gallagher ym Mhencampwriaeth tenis Wimbledon 2024
Yn olaf, mae'r cysylltiad gyda Chymru yn parhau gyda'r genhedlaeth nesaf o'r Gallaghers gan fod merch Noel mewn perthynas gyda Chymro.
Yn ôl y papurau newydd mae'r model Anais Gallagher wedi bod mewn perthynas gyda'r actor o'r Cymoedd Callum Scott Howells, oedd yn It's a Sin, ers 2023.
Mae'r ddau wedi eu gweld gyda'i gilydd mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys gwyliau diweddar yn Disneyland.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2016