Cyhuddo menyw ar ôl marwolaeth 4 o bobl fu'n padlfyrddio yn 2021

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola WheatleyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi cael ei chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio yn 2021.

Mae Nerys Bethan Lloyd, 39 o Aberafan, wedi'i chyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad yn dilyn esgeulustod difrifol ac un trosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Mae'n dilyn digwyddiad ar yr Afon Cleddau yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, 30 Hydref 2021.

Arweiniodd y digwyddiad at farwolaeth Paul O’Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley.

Ms Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog, oedd yn cynnal y daith badlfyrddio.

Mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 3 Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma ar Afon Cleddau Wen, tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Cameron Ritchie o Heddlu Dyfed-Powys fod y cyhuddiadau'n deillio o "ymchwiliad hir a chymhleth, yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron".

"Mae teuluoedd y rhai hynny a fu farw a’r rhai hynny a oroesodd y digwyddiad i gyd wedi cael gwybod.

"Gan fod achosion troseddol nawr wedi cychwyn mae’n bwysig nad oes unrhyw riportio, sylwebaeth na phostio ar-lein a allai niweidio’r achos hwn.”