Dyn wedi marw mewn hostel mechnïaeth 'ar ôl anadlu nwy biwtan'

Hostel mechnïaeth Tŷ NewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Louis Maniatt yn farw yn ei wely yn hostel mechnïaeth Tŷ Newydd ym Mangor

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn o ddiffyg ocsigen ar ôl anadlu nwy biwtan yn ei ystafell wely, tra'r oedd dan ofal y gwasanaeth prawf, clywodd cwest.

Cafwyd hyd i Louis Maniatt, 43 o Gasnewydd, yn farw yn ei wely gyda chanister hanner gwag o nwy biwtan wrth droed ei wely, a chanister gwag yn y cabinet wrth ochr ei wely, yn hostel mechnïaeth Tŷ Newydd ym Mangor yn Ebrill 2023.

Clywodd y cwest, a gynhaliwyd yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon, fod Mr Maniatt wedi bod i mewn ac allan o'r carchar sawl gwaith yn ystod ei fywyd, a'i fod wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl.

Cofnododd Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, Sarah Riley, bod ei farwolaeth trwy anffawd, sef pan fydd person yn gwneud dewis bwriadol i wneud rhywbeth sydd wedyn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Mynedfa Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest ei gynnal yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon

Cyrhaeddodd Mr Maniatt yr hostel ar 27 Mawrth 2023, ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.

Roedd i fod i aros ar y safle am wyth wythnos, ond cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei wely pedair wythnos yn ddiweddarach.

Ar fore ei farwolaeth, aeth staff i weld Mr Maniatt dair gwaith fel rhan o'r system o gadw golwg rheolaidd breswylwyr yr hostel.

Mae disgwyl i staff gael "ymateb digonol" neu "roused response" gan bob person.

Mae hynny'n golygu rhywbeth fel codi bawd neu ymateb ar lafar - gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn iach a diogel.

Clywodd y cwest fod aelod o staff wedi curo ar ddrws ei ystafell am 06:00 a galw ar Mr Maniatt.

Adroddodd yr aelod o staff ei fod wedi clywed Louis yn "ochneidio" a "sŵn y fatres blastig" - wrth iddo rolio drosodd yn ei wely.

Dwy awr yn ddiweddarach cafodd ei wirio eto gan aelod o staff gwahanol.

Y tro hwn fodd bynnag, daeth dim ymateb gan Mr Maniatt. Dywedodd yr aelod o staff ei bod wedi "ei weld yn ei wely" a'i fod yn "edrych fel ei fod yn cysgu".

Ond, cyfaddefodd yn ddiweddarach i uwch aelod o staff, nad oedd wedi cael "ymateb digonol" gan Mr Maniatt.

Mewn 'hwyliau da' y diwrnod cyn ei farwolaeth

Am 11:00 aeth aelod o staff arall i weld Mr Maniatt ac wrth fynd i mewn i'r ystafell, daeth o hyd iddo yn gorwedd yn ei wely.

Cyffyrddodd yr aelod o staff â braich Mr Maniatt a'i ganfod yn "oer i'w gyffwrdd" ac yn "stiff".

Nid oedd yn gallu dod o hyd i guriad ei galon a thybiodd fod Mr Maniatt wedi marw.

Galwodd y gwasanaethau brys a daeth cadarnhad fod Mr Maniatt wedi marw gan barafeddygon yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Clywodd y cwest fod Mr Maniatt wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl yn y gorffennol, ond ei fod mewn "hwyliau da" y diwrnod cyn ei farwolaeth a'i fod wedi mynegi ei "gyffro" am allu gweld ei deulu yn fuan.

Daeth archwiliad post-mortem, a gynhaliwyd gan Dr Muhammad Aslam, o hyd i "smotiau pinc" ar groen Mr Maniatt - sydd, yn ôl y meddyg, fel arfer yn gysylltiedig â diffyg ocsigen neu asphycsia.

Y farn oedd ei fod wedi marw ar ôl anadlu nwy biwtan yn fwriadol.

Wrth rannu ei dyfarniad, dywedodd y crwner: "Rwyf wedi cael sicrwydd bod proses fwy cadarn ar waith bellach yn dilyn marwolaeth Mr Maniatt.

"Felly rwy'n fodlon bod camau eisoes wedi'u cymryd gyda'r bwriad o atal marwolaethau yn y dyfodol," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig