Disgyblion Caerdydd yn cyrraedd rowndiau terfynol F1 y byd

Pencampwyr Cymru yng nghystadleuaeth F1 ysgolion
Disgrifiad o’r llun,

Criw o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern oedd pencampwyr Cymru yng nghystadleuaeth F1 ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Fformiwla 1 y byd i ysgolion.

Yn dilyn eu llwyddiant yng nghystadleuaeth y DU eleni, bydd y chwe disgybl, Tîm Hypernova, yn teithio i Sawdi Arabia ddydd Mercher i gystadlu yn erbyn timoedd ledled y byd.

Fel rhan o'r gystadleuaeth, bydd yn rhaid i bob tîm ddylunio a chynhyrchu fersiwn llai o gar F1.

Bydd y disgyblion yn cael eu hasesu ar gyflymder y cerbyd, eu gwaith peirianneg a'u harddangosfa o'r prosiect.

Wedi'i hariannu'n rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru, mae'r gystadleuaeth yn ceisio annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau STEM.

Dechreuodd tîm Ysgol Gyfun Bro Edern eu taith F1 bedair blynedd yn ôl, ac mae’r disgyblion wedi cael cryn lwyddiant ers hynny.

Nhw oedd y tîm i gael yr amser trac cyffredinol cyflymaf yng nghystadleuaeth y DU.

Yn ôl Carys, rheolwr Prosiect Hypernova, mae'r broses wedi bod yn un cyffrous.

"Eleni rydym ni wedi dod yn gyntaf yn ne Cymru, ac roedd hynny wedi mynd â ni o amgylch y DU lle roedd tua 25 tîm yn cystadlu a fan'na fe ddaethon ni'n fuddugol fel pencampwyr Cymru.

"A phan enillon ni fe gawson ni docyn i fynd i rownd derfynol y byd yn Sawdi Arabia."

Disgrifiad o’r llun,

Fersiwn o gar bach F1 Tîm Hypernova

Wedi'i ddatblygu i gyflwyno pynciau STEM mewn ffordd ddeniadol i bobl ifanc, mae cystadleuaeth F1 mewn ysgolion yn cynnig ffordd hwyliog o ddysgu'r pynciau.

Dywedodd Mathew, sy'n rhan o'r tîm, fod y prosiect wedi'i sbarduno i astudio peirianneg yn y dyfodol.

"Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i ishe mynd mewn i beirianneg cyn cystadlu yn y gystadleuaeth yma.

"Ond wrth ddylunio'r car ac edrych ar lot o stwff peirianyddol, fi wedi cael passion ar gyfer y pwnc a nawr dwi ishe astudio peirianneg yn y brifysgol."

Ychwanegodd Carys, bod y gystadleuaeth hefyd wedi'i helpu hi i ddewis ei gyrfa.

"Mae’r gystadleuaeth hon wedi dangos i mi fy mod i’n mwynhau pynciau STEM, yn enwedig yr ochr gyfathrebu.

"Dwi’n bwriadu astudio meddygaeth, ac oni bai am y profiad hwn, mae’n debygol na fyddwn i wedi ystyried hynny fel gyrfa."

Disgrifiad o’r llun,

Mathew, Carys ac Alffi - aelodau Tîm Hypernova Ysgol Bro Eden

Mae'r criw yn brysur yn paratoi camau diwethaf eu prosiect ar gyfer y gystadleuaeth fawr yn Sawdi Arabia.

Dywedodd Alffi bod Tîm Hypernova yn edrych ymlaen at yr her.

"Dwi'n meddwl fod pawb yn edrych ymlaen, felly ni angen gwneud lot o preparation amdano fe.

"Ond fi meddwl bod ni mynd i joio a chael profiad da."

Pynciau cysylltiedig