Ymgyrch newydd i godi cofeb anferth i Dryweryn ar lan Llyn Celyn

Argraff arlunydd o'r gofeb a'r cyrchfanFfynhonnell y llun, Cofiwn Dryweryn
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o'r safle pan fyddai wedi'i gwblhau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i godi cofeb anferth i Dryweryn, a datblygu safle ar lan Llyn Celyn.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys codi cerflun efydd dros 20 troedfedd o daldra, wedi'i ddylunio gan y diweddar John Meirion Morris.

Y bwriad hefyd ydy adnewyddu'r Capel Coffa a chreu amffitheatr, yn ogystal â gosod mwynderau eraill.

I wireddu'r cynllun mae pwyllgor gwaith Cofiwn Dryweryn wedi'i sefydlu, sydd wedi cynnal trafodaethau "cadarnhaol iawn" gyda Dŵr Cymru o ran sicrhau'r Capel a'r tir, a hefyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor - y cyn-aelod seneddol Elfyn Llwyd - bod gwaith ar droed i sicrhau arian grant i weithredu'r cynllun, ac mai'r bwriad yw agor yr ymgyrch codi arian i'r cyhoedd dros y misoedd nesaf.

John Meirion Morris gyda maquette o Aderyn TrywerynFfynhonnell y llun, johnmeirionmorris.org
Disgrifiad o’r llun,

John Meirion Morris gyda maquette o Aderyn Tryweryn

Boddwyd cymuned wledig Capel Celyn yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr Tryweryn - Llyn Celyn - fyddai'n cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.

Cafodd teuluoedd eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd.

Ar ddiwedd yr 1990au fe ddatblygodd syniad i godi Aderyn Tryweryn - cerflun efydd 28 troedfedd, gan un o gerflunwyr amlycaf Cymru, John Meirion Morris.

Fe gafodd gryn sylw ar y pryd - cafodd y mater ei godi ar lawr y Cynulliad a San Steffan, ac agorwyd cronfa i gasglu £250,000 er mwyn gwneud y gwaith.

Ond methu wnaeth yr ymgyrch, ac fe aeth y darn celf gwreiddiol - model ar gyfer y cerflun efydd maint llawn oedd yn cyfleu aderyn yn codi a gwarchod pobl a phlant - i'r Llyfrgell Genedlaethol i'w gadw.

Aderyn TrywerynFfynhonnell y llun, Cofiwn Dryweryn
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gofeb efydd yn sefyll dros 20 troedfedd o daldra

Ond ar ôl trafodaethau a gychwynnodd ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae pwyllgor Cofiwn Dryweryn ar waith yn ceisio adfywio'r cynlluniau.

Dywedodd Elfyn Llwyd: "Y bwriad fydd ail-wneud y Capel Celyn a dod â fo i fyny i'r safon ddisgwyliedig - sicrhau bod ni'n rhoi fideos ac yn y blaen yn y capel yn esbonio yn union hanes y cwm, a'r hyn ddigwyddodd yn ôl yn y 1960au.

"Fydd 'na gyfle wedyn i werthuso pethau ac i bobl gael eu haddysgu am yr hyn ddigwyddodd, a gobeithio y bydd o o gymorth hefyd i fyfyrwyr a phlant ysgol ledled Cymru a thu hwnt.

"Yn ogystal â hynny 'da ni'n sôn am greu llefydd i barcio, ampitheatre bach a'r cerflun ar y safle hwnnw yn nes at y llyn i roi'r argraff fod o'n codi o'r llyn, fel oedd John wedi rhagweld yn ei gynlluniau."

Braslyn o Aderyn Tryweyn gan John Meirion MorrisFfynhonnell y llun, johnmeirionmorris.org
Disgrifiad o’r llun,

Braslyn o Aderyn Tryweyn gan John Meirion Morris

Mae Mr Llwyd yn rhagweld y bydd y prosiect yn costio rhwng £600,000 a £700,000 ac yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau wedi i'r arian gael ei godi.

Mae'n credu gall yr ymgyrch fod yn llwyddiannus y tro hwn oherwydd y "tîm da o bobl wrth y llyw" sy'n cynnwys y Prifardd Elwyn Edwards, Peter Lord, teulu'r diweddar John Meirion Morris, ac eraill.

'Pwysig fod pawb yn gwybod yr hanes'

Dywedodd fod yr ymgyrch newydd yn gyfle i adeiladu ar seiliau'r apêl wreiddiol a lwyddwyd i sicrhau caniatâd cynllunio, yn ogystal â chodi bron i £15,000 a fydd yn mynd tuag at weithredu camau cyntaf y cynllun.

"Mae 'na lot o frwdfrydedd ac y gyntaf 'da ni'n mynd allan yn gyhoeddus dwi'n siŵr fedrwn ni harnesu brwdfrydedd pobl Cymru gyfan," meddai.

"Fedrwn ni ddim fel pobl wybod byth lle 'da ni'n mynd fel Cymru heb law bod ni'n deall ein hanes."

Ychwanegodd: "Dyma ein cyfle, dyma ein gwaith a dyma ein braint i wireddu breuddwyd John Meirion Morris dros Gymru ac i goffau'r hyn ddigwyddodd.

"'Da ni'n gwybod bod 'Cofiwch Dryweryn' yn fyd-enwog fel slogan ŵan, ond mae'n bwysig fod pawb ledled y byd yn gwybod yn union be' sydd tu cefn i'r geiriau yna iddyn nhw gael gwybod yr hanes, er mwyn sicrhau na ddigwyddid y ffasiwn beth byth eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig