'Siom' cefnogwyr Cymru ar ôl canslo hediad Montenegro

Podgorica
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cymru yn Podgorica cyn y gêm yn erbyn Montenegro

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi mynegi siom ar ôl i'w trip i Montenegro gael ei ganslo yn dilyn trafferthion gyda hediad o Faes Awyr Caerdydd.

Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o Faes Awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar ôl y gêm rhwng Cymru a Thwrci nos Wener ar gyfer y gêm oddi cartref nos Lun.

Ond dywedodd cwmni teithio Wonky Sheep - partner teithio swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru - bod yn rhaid canslo'r hediad wedi i'r awyren daro aderyn, a'u bod wedi methu a dod o hyd i awyren arall mewn pryd.

Dywedodd un cefnogwr, a oedd eisiau aros yn ddienw, fod y sefyllfa'n "llanast".

Mewn datganiad ddydd Sul, fe wnaeth Wonky Sheep ymddiheuro, gan ddweud eu bod wedi "gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb", ond nad oedd modd canfod datrysiad.

Mae'r cwmni yn dweud eu bod eisoes wedi dechrau ad-dalu cefnogwyr.

'Dipyn o siom'

Fe wnaeth cwmni Wonky Sheep drefnu gwesty nos Wener a nos Sadwrn i rai cefnogwyr yn sgil trafferthion gyda'r awyren.

Cafodd y cefnogwyr wybod gan y cwmni fod yr hediad wedi'i ganslo'n llwyr nos Sul.

Dywedodd un cefnogwr: "Mae'n rhwystredig achos os fysa nhw 'di deud fod dim awyren ar y nos Wener mi fyswn i wedi mynd yn syth i fwcio un arall pan oedd y prisiau dal yn rhesymol ond yn lle hynny roedd Wonky Sheep yn gaddo a gaddo a wnaethon ni ddisgwyl - dyna'r brif broblem o safbwynt ni.

"Dyma'r tro cyntaf i ni fethu gêm oherwydd trafnidiaeth. Mae'n anffodus iawn fod pobl efo tocynnau i'r gêm methu mynd - pobl sy'n gwbl selog dros ddilyn Cymru.

"Mae'n rwbath oedd pobl yn edrych ymlaen at - yn enwedig ar ôl y gêm nos Wener - ac mae'n dipyn o siom."

Disgrifiad,

Gareth Price o Corris yn sgwrsio am y profiad ar raglen Dros Frecwast

Ymysg y rhai oedd wedi gobeithio teithio i Montenegro oedd Gareth Price o Gorris. Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Gareth nad oedd yn medru fforddio aildrefnu hediad arall i Montenegro.

"Nath 'na griw adael y gwesty nos Sadwrn i gael flight o Heathrow ac aeth un o'n ffrindiau i Gatwick ond ti'n sôn am £200 un ffordd a hefyd y gost o drefnu cael lawr i'r maes awyr.

"Os fyswn i wedi cael tocyn [i'r gêm] falle sw'n i 'di considero fo'n galetach ond gan bo' fi heb gael tocyn, oedd hynna'n chwarae ar fy meddwl i - sna'm pwynt mynd - er mor dda oedd hi tro diwethaf aethon ni draw yn 2010 pan gollon ni 1-0.

"Roedd y lle yn arbennig, o'n i'n edrych ymlaen i fynd yn ôl just i weld pethe eto ond dwi methu fforddio £200 arall."

Dywedodd llefarydd ar ran Wonky Sheep ddydd Sul: “Mae’n ddrwg iawn nad ydym wedi gallu cael cefnogwyr i Montenegro ar gyfer y gêm.

“Fe wnaethon ni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb gyda nifer o ddarparwyr dros y 48 awr ddiwethaf ond fe wnaethon ni wynebu amryw o rwystrau logistaidd, a oedd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn rhwystro ein hymdrechion.

“Y peth olaf roedden ni eisiau ei wneud oedd siomi cefnogwyr, ond maen nhw wedi bod yn eithriadol gyda’u hamynedd a’u dealltwriaeth o sefyllfa anodd iawn, ac rydyn ni’n diolch iddyn nhw am hynny.”

Pynciau cysylltiedig