Gêm gyfartal i Gymru yng ngêm gyntaf Bellamy wrth y llyw

Cymru v TwrciFfynhonnell y llun, Action Images/Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy gyda'i chwaraewyr ar ôl gem gyfartal yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Gêm gyfartal oedd hi i Gymru yng ngêm gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw, gyda sgôr o 0-0 yn erbyn Twrci.

Dyma gêm gyntaf Cymru yn eu hymgyrch newydd yng ngrŵp 4 o'r ail haen - Cynghrair B - o Gynghrair y Cenhedloedd, sydd hefyd yn cynnwys Gwlad yr Iâ a Montenegro.

Roedd hi'n ddechrau cyffrous i dîm Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r cyfle cyntaf yn dod o beniad gan Aaron Ramsey funudau wedi'r gic gyntaf.

Roedd y Cymry'n rheoli'r meddiant am yr hanner cyntaf, yn chwarae ar y droed flaen gyda symudiadau da ar draws y cae.

Wrth nesáu at hanner amser, roedd y pwysau ar Twrci yn cynyddu, gyda Sorba Thomas yn rhoi'r bêl yn y rhwyd, ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu am ei fod yn camsefyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Twrci lawr i 10 dyn gyda hanner awr o'r gêm i fynd ar ôl i Baris Yilmaz dderbyn ail gerdyn melyn

Roedd yr ail hanner yn fwy cystadleuol o'r gic gyntaf, gyda chyfle gorau Twrci'n cyrraedd o fewn ychydig o funudau.

Ond roedd Cymru'n chwarae gyda'r un hyder a thempo a welwyd yn yr hanner cyntaf gyda chasgliad o ergydion yn dod yn fuan yn yr ail hanner.

Wrth i'r pwysau gynyddu ar Twrci unwaith eto, fe wnaeth eu hymosodwr Baris Yilmaz dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar Neco Williams.

Gyda Twrci lawr i 10 dyn am drydedd olaf y gêm, llwyddodd Cymru i gadw'r pwysau arnynt am weddill y 90 munud.

Ffynhonnell y llun, Action Images/Reuters

Daeth Kieffer Moore, Lewis Koumas ac Oli Cooper ymlaen i Gymru am Ramsey, Thomas a Jordan James yn y gobaith y gallai helpu'r tîm fanteisio ar y dyn ychwanegol.

Roedd toriad yn y chwarae am ychydig o funudau ar ôl i Moore ddioddef anaf i'w ben a wnaeth arwain at wyth munud o amser ychwanegol.

Ond er yr holl ymosodiadau gan Gymru, dim ond un arbediad wnaeth golwr Twrci ar y noson wrth i'r gêm orffen yn ddi-sgôr.

Bydd tîm dynion Cymru'n chwarae oddi cartref nesaf yn erbyn Montenegro nos Lun.