Bwyty yn Sir Gâr ar eu colled wedi i ddau ddyn adael heb dalu
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion bwyty yng Nghaerfyrddin yn dweud eu bod ar eu colled ar ôl i ddau ddyn adael heb dalu am eu bwyd.
Roedd The Welsh House yng Nghaerfyrddin yn dathlu eu noson gyntaf ddydd Gwener, 25 Hydref, pan adawodd dau ddyn heb dalu eu bil gwerth £155.
Dywedodd y bwyty eu bod wedi cysylltu â'r heddlu a bod yr hyn digwyddodd yn "ofidus i'r tîm cyfan".
Dywedon nhw wrth BBC Cymru bod ymateb y dref wedi bod yn wych.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio.
'Gobeithio y bydden nhw'n dod ymlaen'
Fe wnaeth y cwmni roi apêl ar Facebook rhag ofn bod y dynion wedi gwneud camgymeriad ac wedi anghofio talu eu bil.
"Fe wnaethon ni roi neges allan ar y cyfryngau cymdeithasol yn gobeithio y bydden nhw'n dod ymlaen ac yn setlo'r hyn sy'n ddyledus," meddai llefarydd wrth BBC Cymru.
"Mae gennym CCTV ond doedden ni eisiau 'name and shame'.
“O’n i eisiau iddyn nhw ddod ymlaen fel allen ni dynnu llinell oddi tano a mynd yn ôl at hyrwyddo cynnyrch o Gymru a chanolbwyntio ar ein cwsmeriaid."
Mae copi o'r bil yn dangos bod y bwrdd wedi archebu dwy botel o win, cyrsiau cyntaf, dwy stêc a dau goffi Gwyddelig - cyfanswm o £155.60.
Dywedodd y bwyty y gallai biliau sydd ddim yn cael eu talu fod y gwahaniaeth rhwng gwneud elw neu golled y diwrnod hwnnw.
Mae'r bwyty yn diolch i'w cwsmeriaid am y gefnogaeth a'r negeseuon positif.
"Mewn byd delfrydol, bydden nhw’n dychwelyd ac yn talu'r bil, a gallwn fynd yn ôl at ganolbwyntio ar wneud y bwyty yn le mae pobl wrth eu bodd yn treulio amser gyda'i gilydd, a mwynhau bwyd Cymreig gwych," medden nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2024