Bwyty arall yn cyhuddo cwpl o adael heb dalu
- Cyhoeddwyd
Byddai wedi bod modd atal cwpl, wnaeth adael pum bwyty heb dalu, yn gynt, yn ôl perchennog bwyty sydd wedi “torri ei chalon”.
Pan ddarllenodd Emily Langford am Bernard ac Ann McDonagh yn pledio’n euog i ddwyn mwy na £1,000 o fwyd a diod, roedd hi wedi'i chythruddo.
Collodd ei busnes teuluol yn Y Bont-faen, Bro Morgannwg, fwy na £150 pan adawodd grŵp heb dalu’r bil a hynny wythnosau cyn i’r cwpl twyllodrus dargedu Bella Ciao yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cysylltu’r lladradau a’u bod yn ymchwilio ar ôl i Ann McDonagh gael ei hadnabod ar luniau teledu cylch cyfyng y tu allan i fwyty Emily.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Mr a Mrs McDonagh am ymateb.
'Seboni fi a mam'
Ar nos Fawrth dawel ym mis Mawrth, roedd Emily a’i rhieni’n falch o ddarparu bwrdd i bump yn eu pizzeria teuluol The Yard.
Fe wnaeth y pump, a oedd hefyd â babi, fwyta corgimychiaid ac eog i gychwyn, yna lasagnes a pizzas ac fe gawson nhw boteli o ddiodydd meddal.
"Fe wnaethon ni ofyn a oedd popeth yn iawn, dywedon nhw fod popeth yn hyfryd," meddai Emily.
Ar ôl tua awr, dywedodd Emily fod y dynion a'r plant wedi codi o'r bwrdd, wedi diolch, ac wedi mynd at yr allanfa tra bod y ddynes wedi gofyn a allai hi dalu wrth y bar.
"Roedd hi'n neis iawn i fi a mam, yn dweud ein bod ni'n edrych fel chwiorydd, yn ddel iawn ac yn y blaen."
Gofynnodd y ddynes iddynt hefyd pam ei bod mor dawel yn y lle bwyd a dywedodd Emily bod y busnes yn ei "chael hi'n anodd iawn".
Ceisiodd y ddynes dalu'r bil o £151 gyda'i cherdyn. Cafodd y cerdyn ei wrthod ddwywaith felly gofynnodd ble roedd y peiriant twll yn wal agosaf.
Dywedodd Emily: “Fe aethon ni â hi y tu allan a dangos iddi - roedd y peiriant arian yn llythrennol dau ddrws i lawr.
“Fe wnes i wylio hi’n mynd i’r twll yn y wal, troi fy mhen am eiliad, a phan edrychais eto roedd hi wedi mynd.”
Ar ôl saith mlynedd mewn busnes, dywedodd Emily mai dyma'r "tro cyntaf a'r unig dro" i'r teulu gael rhywun yn gadael heb dalu.
“Tref fach yw hon ac rydyn ni’n fwy neu lai'n adnabod ein cwsmeriaid i gyd.
“Rydyn ni’n ymddiried yn ein gilydd yma. Fydden i byth yn meddwl y byddai unrhyw beth fel hyn yn digwydd ond mi wnaeth e.”
Mae Emily a’i theulu yn falch o’r busnes, nid yn unig am y bwyd ond am y modd y mae’n dod â phobl at ei gilydd.
“Chi'n ei wneud e oherwydd eich bod chi'n ei garu ac yn angerddol amdano, bwyd da ac awyrgylch braf i bobl.
"Ni wedi creu cymuned yma... maen nhw wedi dod yn rhan o'n teulu bach ni."
Roedd cael profiad o bobl yn gadael heb dalu a gweld eraill yn cael eu targedu yn "anodd" i'r teulu.
Roedd e'n "dorcalonnus" yn enwedig ar ôl blynyddoedd "anodd" i'r diwydiant lletygarwch yn ddiweddar, y pandemig, a'r argyfwng costau byw.
"Rydym yn fusnes bach annibynnol teuluol. Mae fel tynnu bwyd oddi ar ein bwrdd," meddai.
“Chi ddim yn meddwl y byddai gan unrhyw un y galon i wneud hynny, ar ôl popeth rydyn ni i gyd wedi bod drwyddo ac mae pawb yn gwybod bod y diwydiant lletygarwch yn ei chael hi'n anodd iawn.”
Ar ôl clywed am droseddau’r McDonaghs, ychwanegodd: “Sut oedd ganddyn nhw’r cydwybod i fynd o gwmpas a gwneud hynny dro ar ôl tro?
"Yn ffodus ddim mwyach, oherwydd maen nhw wedi cael eu dal."
Dywedodd Heddlu De Cymru: “Pan gafodd y drosedd hon ei hadrodd am y tro cyntaf, doedd neb yn gwybod pwy oedd y rhai a oedd yn cael eu hamau.
“Dim ond ar ôl digwyddiad diweddarach a’r sylw iddo y gwnaeth swyddogion allu cysylltu’r ddau ddigwyddiad.
"Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn Y Bont-faen yn parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai