Gŵr a gwraig wedi gadael bwytai heb dalu dros £1,000
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a gwraig o Bort Talbot wedi cyfaddef gadael sawl bwyty yn ne Cymru heb dalu biliau gwerth dros £1,000.
Fe archebodd Bernard McDonagh, 41, a'i wraig Ann, 39, gwerth £1168.10 o fwyd a diod mewn pum bwyty, cyn gadael heb dalu.
Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o un o'r achosion hynny eu rhannu yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y lluniau yn dangos y ddau yn mwynhau pryd gyda'u teulu ym mwyty Bella Ciao yn Abertawe ar 19 Ebrill, cyn gadael heb dalu bil o £329.10.
Yn Llys Ynadon Abertawe fore Mercher fe blediodd y ddau yn euog i bum cyhuddiad o dwyll.
Fe wnaeth Ann McDonagh hefyd bledio'n euog i ddwyn gwerth £126.60 o eitemau o siop Tesco Extra yn Abertawe, dwyn nwyddau cartref a dillad gwerth £400 o Sainsbury's ym Mhen-y-bont, ac un achos o atal gwaith yr heddlu yn fwriadol yn Swyddfa'r Heddlu ym Mhen-y-bont.
Clywodd y llys bod y ddau wedi cael eu herlyn yn y gorffennol am ddwyn a thwyllo.
Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Mai.