Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad beic modur a fan yn y gogledd

A494 LlanferresFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a fan yn Sir Ddinbych fore Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A494 yn Llanferres ble roedd beic modur Honda a fan Mercedes wedi bod mewn gwrthdrawiad toc wedi 09:00.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn safle'r digwyddiad, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig