Cyn-esgob wedi cyfaddef troseddau rhyw yn erbyn plentyn

Dywedodd yr eglwys bod y troseddau'n dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad yn West Cross, Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-esgob o Gymru wedi cyfaddef troseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bachgen.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, wedi cyfaddef pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Yn ôl yr eglwys, mae'r troseddau'n dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad yn West Cross, Abertawe.
Daeth yr honiadau i'r amlwg yn 2023, meddai datganiad gan yr Eglwys yng Nghymru, wnaeth ychwanegu bod y wybodaeth wedi ei basio at yr heddlu ar unwaith.
Fe fydd tribiwnlys yr eglwys yn ystyried camau pellach ar ôl dedfrydu yn yr achos troseddol, meddai'r datganiad.
"Rydym yn cydnabod dewrder y goroeswr wrth ddod ymlaen ac yn diolch i'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r awdurdod lleol am eu gwaith gofalus gyda'r achos", meddai'r datganiad.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i brawychu gan y troseddau sydd wedi eu hamlygu ac yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf gyda'r dioddefwr am y gamdriniaeth."
Ychwanegodd yr eglwys bod ymchwiliad mewnol yn awgrymu bod "nifer fach" o bobl wedi dod yn ymwybodol o honiad pellach yn 1993, ond bod hynny heb ei rannu gyda'r heddlu tan 2010.
Fe fydd ymchwiliad annibynnol i'r modd y deliodd yr eglwys gyda'r ail honiad ar unwaith, meddai'r datganiad.